Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY11220
Teitl y Modiwl
Beirdd a Llenorion o 1900 hyd heddiw
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig  60%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr  
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  1500 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd  1500 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

dangos dealltwriaeth o themâu ac o genres llenyddiaeth fodern a chyfoes y Gymraeg (barddoniaeth a rhyddiaith);

dangos dealltwriaeth o brif fudiadau llenyddol y cyfnod fel yr amlygant eu hunain yng ngwaith llenorion y cyfnod: Moderniaeth, Ôl-foderniaeth, Dadeni’r Gynghanedd, Ffeminyddiaeth;

medru trafod detholiad o destunau unigol yn feirniadol, ynghyd â’u gosod yng nghyd-destun canon yr awdur, ynghyd â’u cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol priodol.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl craidd hwn yn rhoi trosolwg beirniadol i fyfyrwyr o themâu ac o genres llenyddiaeth fodern a chyfoes y Gymraeg (barddoniaeth a rhyddiaith), yn ogystal â’u galluogi i werthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol.

Nod

Mae’r modiwl craidd hwn yn rhoi trosolwg beirniadol i fyfyrwyr o themâu ac o genres llenyddiaeth fodern a chyfoes y Gymraeg, yn ogystal â’u galluogi i werthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol.

Cynnwys

Rhoddir sylw i ddetholiad o nofelau, straeon byrion a cherddi gan ystod o awduron.

Wythnos 1
Troad yr ugeinfed ganrif (canu telynegol)

Wythnos 2
Saunders Lewis, Monica

Wythnos 3
Barddoniaeth R. Williams Parry

Wythnos 4
Kate Roberts, Ffair Gaeaf a Storïau Eraill

Wythnos 5
Barddoniaeth T.H. Parry-Williams

Wythnos 6
T.H. Parry-Williams: Ysgrifau

Wythnos 7
Barddoniaeth Bobi Jones

Wythnos 8
Islwyn Ffowc Elis, Marwydos

Wythnos 9
Barddoniaeth Gerwyn Williams

Wythnos 10
Robin Llywelyn, Seren Wen ar Gefndir Gwyn

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn eglur ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol.
Gwaith Tim Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau a’r cysyniadau allweddol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4