Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CYM5960
Teitl y Modiwl
Prosiect Estynedig
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 3 (Traethawd Hir)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Prosiect Estynedig  Naill ai, Traethawd Estynedig 15000 o eiriau (100%) neu Portffolio o Gyfieithiadau c. 12000 o eiriau (70%)ynghyd a Sylwebaeth feirniadol 3000-4000 o eiriau (30%)  100%
Asesiad Semester Prosiect Estynedig  Naill ai, Traethawd Estynedig 15000 o eiriau (100%) neu Portffolio o Gyfieithiadau c. 12000 o eiriau (70%)ynghyd a Sylwebaeth feirniadol 3000-4000 o eiriau (30%)  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. dangos y gallu i ymddisgyblu i gynllunio, pwyso a mesur, adolygu a chwblhau darn estynedig o waith (boed yn draethawd neu’n bortffolio o gyfieithiadau) a hynny at safon proffesiynol.
2. arddangos sgiliau cyfieithu priodol at genre a chywair y testun(au) a gyfieithir (Portffolio o Gyfieithiadau).
3. arddangos dealltwriaeth o bwnc y traethawd a medru ei drin yn feirniadol wrth adeiladu dadl (Traethawd Estynedig).
4. Dangos eu bod yn gallu ysgrifennu Cymraeg cywir a graenus gan ddefnyddio cyweiriau’r iaith yn briodol at y testun (Traethawd Estynedig) a’r testunau a gyfieithir (Portffolio o Gyfieithiadau).
5. dangos eu bod yn gallu golygu eu gwaith a’i brawfddarllen cyn ei gyflwyno mewn diwyg proffesiynol

Disgrifiad cryno

Modiwl sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr roi ar waith y cysyniadau a’r sgiliau a gyflwynwyd ar fodiwlau’r cynllun naill ai drwy (a) Draethawd Estynedig (hyd at 15,000 o eiriau) neu (b) Portffolio o Gyfieithiadau ynghyd â sylwebaeth feirniadol (hyd at 15,000 o eiriau).

Ar gyfer y Portffolio, gellid cyfieithu corff o destunau creadigol (e.e. cerddi, straeon byrion, nofel) neu destunau proffesiynol (e.e. corff o gofnodion, dogfennau deddfwriaethol, teithlyfr y diwydiant treftadaeth, gwefan cwmni preifat neu elusen, ac ati). Disgwylir i fyfyrwyr sy’n dewis llunio portffolio creadigol/proffesiynol hefyd lunio sylwebaeth feirniadol i gyd-fynd â’r portffolio. Trwy gyflwyno portffolio o waith a gyflawnwyd dros ddau semester, ynghyd â’r sylwebaeth feirniadol, gellir mesur camau yr ymdrech, sef cynllunio, pwyso a mesur, adolygu a chwblhau darn estynedig o waith. (Ni ddisgwylir sylwebaeth feirniadol ar gyfer Traethodau Estynedig).

Bydd y Traethawd Estynedig yn fodd i fyfyrwyr ddangos eu hyfedredd wrth gynllunio, pwyso a mesur, adolygu a chwblhau darn estynedig o waith. Fel rhan o’r modiwl, pennir tiwtor personol i bob myfyriwr a chytunir ar fformat a phwnc y gwaith mewn ymgynghoriad â’r tiwtor. Cynhelir cyfarfodydd mynych â’r tiwtor i drafod heriau, cynlluniau a drafftiau, ynghyd â thrafod ac ystyried newidiadau ac addasiadau a wneir i’r gwaith gorffenedig.

Nod

Bwriedir y modiwl creiddiol hwn ar gyfer pob myfyriwr sy’n ymgeisio am gymhwyster MA Astudiaethau Cyfieithu, yn sgil ennill credydau’r Dystysgrif a’r Diploma. Ffocws y modiwl yw datblygu sgiliau ymchwil, sgiliau beirniadol a sgiliau cyfieithu myfyrwyr wrth iddynt gymhwyso’r cysyniadau a’r sgiliau ymarferol a ddysgir ar fodiwlau eraill y cynllun.Oherwydd natur alwedigaethol y cynllun, rhoddir yr opsiwn i fyfyrwyr lunio, naill ai draethawd estynedig ‘traddodiadol’ (sef traethawd disgyrsiol yn cynnal dadl estynedig), neu bortffolio creadigol/proffesiynol (sef portffolio o gyfieithiadau o destunau mewn maes neu ar thema arbennig). Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau’r prosiect dros semestrau 2 a 3.

Cynnwys

Rhoddir yr opsiwn i fyfyrwyr lunio:

Naill ai,

Traethawd Estynedig ‘traddodiadol’, sef traethawd disgyrsiol yn cynnal dadl estynedig ar agwedd gyfoes, hanesyddol neu theoretig ym maes Astudiaethau Cyfieithu. (Ni ddisgwylir sylwebaeth feirniadol ar gyfer Traethodau Estynedig).

Neu,

Portffolio (sef portffolio o gyfieithiadau o destunau mewn maes neu ar thema arbennig). Gall fod yn bortffolio creadigol (cyfieithu darnau llenyddol hanesyddol neu gyfoes, boed yn gerddi, straeon, nofel, neu unrhyw genre arall) neu yn bortffolio proffesiynol (cyfieithu testunau swyddogol megis e.e. corff o gofnodion, dogfennau deddfwriaethol, teithlyfr y diwydiant treftadaeth, gwefan cwmni preifat neu elusen, ac ati). Pennir y portffolio trwy drafodaeth ac ymgynghoriad â’r tiwtor personol a, lle bo’n briodol, ag aelod neu aelodau o’r Consortiwm.

Bydd y portffolio creadigol/proffesiynol hefyd yn cynnwys sylwebaeth feirniadol hunanfyfyriol a fydd yn cyd-destunoli’r gwaith trwy amlygu’r ystyriaethau theoretig ac ymarferol sy’n codio’r gwaith, a thrwy sylwebu ar brosesau a phenderfyniadau goddrychol y cyfieithydd. Goruchwylir y broses ymchwil ac ysgrifennu gan diwtor personol y myfyriwr. Er mwyn pennu tiwtor addas, bydd myfyrwyr yn cyflwyno amlinelliad o’u rhaglen waith arfaethedig. Bydd myfyrwyr yn cyfarfod â’u tiwtoriaid penodedig yn gyson.

Darperir canllawiau ysgrifenedig manwl i’r sylwebaeth feirniadol ar ddechrau’r modiwl.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn trosglwyddo syniadau yn eu gwaith ysgrifenedig (traethawd / sylwebaeth feirniadol); yn trafod gyda’i gilydd ynghyd â thiwtoriaid y modiwl
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae gan y modiwl hwn gymhelliant galwedigaethol cryf gan fod y 60 credyd creiddiol yn golygu ennill cymhwyster cenedlaethol mewn cyfieithu a arddelir gan Gonsortiwm proffesiynol cenedlaethol.
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr ffurfio a datblygu dadl estynedig (traethawd estynedig); disgwylir i fyfyrwyr ddewis ieithwedd a chywair priodol wrth gyfieithu (portffolio o gyfieithiadau)
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i fyfyrwyr ddangos hunangyfarwyddyd trwy ddatblygu a rheoli eu sgiliau ymchwil eu hunain, gan gynnwys trefnu amser yn effeithiol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Mae’r Prosiect Estynedig yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ac ymwybyddiaeth ddyfnach o brosesau a damcaniaethau cyfieithu. Mae’r modiwl yn arwain at ennill cymhwyster cenedlaethol mewn cyfieithu a arddelir gan Gonsortiwm proffesiynol cenedlaethol.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn amlygu sgiliau astudio datblygedig ac yn arddangos y gallu i feddwl yn annibynnol ac yn feirniadol.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio adnoddau llyfryddol electronig a gwefannau; cynhyrchu dogfen(nau) trwy eirbrosesu; defnyddio meddalwedd PowerPoint a Prezi

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7