Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GWM0060
Teitl y Modiwl
Traethawd Hir
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 3 (Traethawd Hir)
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd Hir 14,000-15,000 o eiriau  100%
Asesiad Semester Traethawd Hir 14,000-15,000 o eiriau  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Meithrin arbenigedd yn ei faes astudiaeth arbenigol.

Datblygu sgiliau dadansoddol.

Datblygu'r gallu i fynegi syniadau ar bapur.

Datblygu sgiliau ymchwil.

Disgrifiad cryno

Mae'r traethawd estynedig yn elfen bwysig o raglen Meistr yr Adran. Mae'n cynnig cyfle i fyfyrwyr Meistr ymchwilio ac ysgrifennu darn o waith ymchwil annibynnol o 14,000-15,000 o eiriau erbyn 10 Medi 2004.

Nod

Nod y Traethawd Estynedig yw asesu gallu'r myfyriwr i ddadansoddi casgliad mawr o wybodaeth, ei drefnu, a'i ysgrifennu mewn ffordd sy'n cynnal dadl argyhoeddiadol. Nid gofyn am waith gwreiddiol a wneir; ond ysgrifennu darn o waith ymchwil sy'n arddangos bod y myfyriwr yn gallu meddwl yn annibynnol. Neilltuir aelod o staff ar gyfer pob myfyriwr a fydd yn cynghori a chynnig arweiniad i'r myfyriwr ar strwythur a dadl y thesis.

Cynnwys

Bydd cynnwys y modiwl traethawd estynedig yn wahanol i bob myfyriwr. Mae myfyrwyr yn cynnig testun ar gyfer eu traethawd estynedig a bydd hwn yn cael ei gymeradwyo gan Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwch-raddedig. I lwyddo, rhaid i draethawd estynedig gyflawni'r amcanion sydd i'w gosod yn eglur ar y cychwyn; cynnal dadl gydlynol wedi ei datblygu'n dda; a chael ei gyflwyno mewn modd ysgolheigaidd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu proffesiynol Bydd y trafodaethau yn y gweithdai yn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno. Bydd dysgu am y broses o gynllunio ac ymgymryd ag ymchwil, fframio paramedrau'r prosiectau, a datblygu dyluniad ymchwil y traethawd hir, yn cyfrannu at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy
Datrys Problemau Creadigol Bydd datrys problemau'n greadigol yn un o nodau canolog y modiwl; bydd cyflwyno'r traethawd hir yn gofyn bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd gallu myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu trwy ofyn iddynt: fabwysiadu safbwyntiau gwahanol; trefnu data a cynnig ateb i'r broblem; dadlau'n rhesymegol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai.
Gallu digidol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith ar ffurf prosesu geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â defnyddio ffynonellau gwybodaeth electronig (megis Web of Science).
Meddwl beirniadol a dadansoddol Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad trwy ymgymryd â'u hymchwil ac ymarfer eu menter eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, llunio rhestrau darllen, a phenderfynu (dan arweiniad) cyfeiriad eu gwaith ysgrifenedig. Disgwylir i fyfyrwyr hefyd wneud ymchwil ar agweddau damcaniaethol allweddol ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol, datblygu'r dulliau hyn trwy'r traethawd hir, a defnyddio dadleuon damcaniaethol ar gyfer dehongli data.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7