Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
MT34210
Teitl y Modiwl
Dulliau Asymptotig mewn Mecaneg
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad Ysgrifenedig  2 Awr  100%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad Ysgrifenedig  2 Awr  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos dealltwriaeth o ystyr datrysiadau asymptotig yn y cyd-destun priodol a sut i ddehongli’r datrysiadau yma;

Datrys hafaliadau differol cyffredin a rhannol llinol ac aflinol syml trwy ddefnyddio dulliau asymptotig;

Egluro digwyddiad ffenomena asymptotig mewn mecaneg gan ddefnyddio enghreifftiau addas.

Disgrifiad cryno

Bydd nifer o broblemau mathemategol sy’n codi mewn mecaneg yn rhai y gellir eu gosod yn nhermau hafaliadau differol. Fel rheol, mae problemau o’r fath yn gosod heriau newydd o safbwynt mathemategol. Felly mae’r achos terfannol, sydd â datrysiad dadansoddol, yn hynod o bwysig. Prif amcan y dull asymptotig yw symleiddio’r broblem fathemategol sydd dan ystyriaeth.

Cynnwys

1. Sylfeini: prif syniadau a thechnegau, diffiniadau o’r symbolau Landau, dilyniannau a chyfresi asymptotig.
2. Dulliau aflonyddiad rheolaidd: polynomialau, hafaliadau differol cyffredin.
3. Dulliau aflonyddiad hynod: cydbwysedd trechol, graffiau Kruskal-Newton.
4. Brasamcan asymptoticg o integrynnau: cyfres Taylor, dull Laplace.
5. Osgiliadau aflinol: cymhelliant ffisegol, hafaliad Duffing, termau oesol, dull Linstedt-Poincare.
6. Osgiliadau gwanychol: cymhelliant ffisegol, dull dwy raddfa.
7. Dull asymptotig cymharus: technegau a chymhwysiad.
8. Dargludiad gwres mewn parthau tenau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6