Amdanom Ni

Cerddorfa wedi ei osod

Mae gan gerddoriaeth yn Aberystwyth hanes hir ac uchel ei barch, sy’n ymestyn yn ôl i benodiad Joseph Parry, cyfansoddwr Cymraeg mwyaf blaenllaw ei gyfnod, fel yr Athro Cerddoriaeth cyntaf yn 1874. O’r opera Gymraeg gyntaf erioed, i alawon gwerin a gweithiau siambr, y gân a’r gerddorfa, mae cerddoriaeth newydd, uchelgeisiol, Cymraeg yn rhan annatod o genhadaeth Aberystwyth erioed.

Edrychwch ar Cerddwn - ein prosiect i greu cerddoriaeth newydd eithriadol!

Mae yna raglen brysur ac amrywiol o weithgareddau trwy gydol y tymor – cerddorfa symffoni, band chwyth, grwp llinynnol, côr anffurfiol a grwp jamio. Mae’r holl weithgaredd yma yn agored i bawb, yn fyfyrwyr ac yn aelodau’r gymuned, yn rhad ac am ddim – credwn yn gryf bod cerddoriaeth i bawb, heb unrhyw rwystrau.