Cyhoeddi'r data ariannol diweddaraf ar ffermio organig
1 March 2006Mae arolwg diweddaraf Sefydliad y Gwyddorau Gwledig, Prifysgol Cymru, Aberystwyth o incwm ffermydd organig yng Nghymru a Lloegr (2003/4) yn dangos bod ffermydd organig o wahanol fathau yn llwyddo i gynnal lefelau incwm.
Cyhoeddi Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus Tymor y Pasg a'r Haf
1 March 2006Mae rhaglen ddarlithoedd cyhoeddus ar gyfer tymor y Gwanwyn a'r Haf ( Ionawr-Mai 2006 ) wedi ei cyhoeddi.
Myfyrwyr yn dadlau'n llwyddiannus <br />
1 March 2006Yn ystod penwythnos cyntaf mis Chwefror bu Adran y Gyfraith PCA yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Ffug Lys (Moot) Flynyddol yr 'Inner Temple' rhwng prifysgolion yn Llundain.
Hyfforddi yng Ngheredigion
1 March 2006Bydd menter newydd bwysig fydd yn cynnig hyfforddiant am ddim i drigolion 10 ardal Cyngor Sir Ceredigion, yn cael ei lawnsio yng Nghanolfan Edward Richard, Ystad Meurig nos Llun yr 20fed o Chwefror gan PCA.
£800,000 ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol
1 March 2006Dyfarnwyd £800,225 i Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Cymru Aberystwyth (PCA) er mwyn ariannu deuddeg Cymrodoriaeth Hyfforddi Camau Cynnar Marie Curie o dan 6ed Rhaglen Fframwaith y Comisiwn Ewropeaidd ar Ymchwil, Datblygu Technolegol ac Arddangos.
Llwyddiant i'r Ysgol Gelf
13 March 2006Mae gwobrau cenedlaethol a ddyfarnwyd i fyfyrwyr Ysgol Gelf yn ddiweddar yn adlewyrchiad o'r safonau uchel yn yr Ysgol a'r parch uchel at waith y myfyrwyr yn ôl Robert Meyrick, Pennaeth a Cheidwad Celf yr Ysgol.
Her iechyd yr Imagine Cup <br />
9 March 2006Fory, Dydd Gwener 10 Mawrth, bydd dau dîm o'r Adran Gyfrifiadureg yn cynrychioli PCA yn rownd derfynol Prydain o gystadleuaeth Microsoft, Imagine Cup UK 2006.
Cystadleuaeth Sgiliau'r Myfyrwyr yn dathlu'r 10
13 March 2006Ddydd Mercher 15 Mawrth bydd y Ffair Yrfaoedd a Chystadleuaeth Sgiliau'r Myfyrwyr, digwyddiad sydd yn unigryw i Brifysgol Cymru Aberystwyth ac sydd yn cael ei ystyried yn un o'r ffeiriau gyrfaoedd mwyaf blaengar ym Mhrydain, yn dathlu ei degfed penblwydd.
Darlith O'Donnell
20 March 2006Bydd Yr Athro James Mitchell o Brifysgol Strathclyde yn traddodi Darlith O'Donnell ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ar nos Fawrth 28 Mawrth 2006, am 7yh yn yr Hen Neuadd, yr Hen Goleg. Teitl ei ddarlith fydd 'Citizens and Nations: The Rise of Nationalism and the Decline of the British Keynesian Welfare State'.
£10.4m i Aberystwyth i sefydlu Canolfan Ragoriaeth mewn Delweddu
29 March 2006Heddiw (dydd Mercher 29 Mawrth) cyhoeddwyd sefydlu Canolfan Ragoriaeth mewn Delweddu gwerth £10.4 miliwn gan Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor a Phrifathro PCA ac Andrew Davies, Y Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth. Adeiladir y ganolfan newydd ar gampws Penglais y Brifysgol.
Theatr, Ffilm a Theledu yn cynnig tair ysgoloriaeth Phd.
22 March 2006Mae Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Aberystwyth, a gafodd raddfa 5 yn Asesiad Ymchwil 2001, yn gwahodd ceisiadau am ysgoloriaethau ymchwil PhD amser llawn
Llwyddiant y Gyfraith
16 March 2006Ennilwyr y Gystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr, sydd yn dathlu ei dengmlwyddiant eleni, yw tîm Adran y Gyfraith. Wedi diwrnod hir o gystadlu brwd a theg rhwng y pedwar tîm ar ddeg ar ffurf cyflwyniadau 10 munud a stondin arddangos, tîm Adran y Gyfraith ddaeth i'r brig.
Dathlu Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth
16 March 2006Bu dros 800 o ddisgyblion cynradd ac uwchradd o Geredigion, Powys a Gwynedd yn ymweld â'r Brifysgol yn Aberystwyth yr wythnos hon fel rhan o weithgareddau Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth.
PCA yn gweithio i leihau allyriadau carbon
28 March 2006Mae ymgyrch hysbysebu ar draws y Deyrnas Unedig yr wythnos hon gan yr Ymddiriedolaeth Carbon (Carbon Trust) yn cydnabod ymdrech PCA i leihau faint o garbon mae hi'n ei ryddhau i'r amgylchedd.
Aber i gynnal 50fed cynhadledd y Grwp Geneteg Ecolegol
31 March 2006PCA yn croesawu Cynhadledd Flynyddol y Grwp Geneteg Ecolegol (Ecological Genetics Group) sy'n dathlu ei 50 mlwyddiant eleni.