Wythnos Cychwyn Busnes PCA, 4 – 8 Mehefin
5 June 2007Mae'r Wythnos Cychwyn Busnes Flynyddol g2e a gynhelir ar y cyd â Rhwydwaith Menter Crisalis y Brifysgol, wedi ei chynllunio i ddarparu'r holl wybodaeth ymarferol i fyfyrwyr presennol a graddedigion, yn ogystal â'r cyngor a'r anogaeth sydd eu hangen i gychwyn busnes.
Prix de La Grange
4 June 2007Dyfarnwyd y Prix de La Grange i'r Athro David Trotter gan yr Académie des Inscriptions et Belles-Lettres ym Mharis am ei fersiwn o'r testun Ffrangeg canoloesol gan Albucasis, On Surgery.
Aberystwyth yn cyrraedd brig tabl trefi prifysgol
5 June 2007Aberystwyth yw hoff dref prifysgol y Deyrnas Gyfunol yn ôl arolwg a gyhoeddwyd gan www.accommodationforstudents.com.
Llyfr y Flwyddyn
12 June 2007Cyhoeddwyd fod Un Bywyd o Blith Nifer, cyfrol Dr Robin Chapman o Adran y Gymraeg am y gwleidydd a'r dramodydd Saunders Lewis, yn un o dair sydd ar restr fer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.
'Y Tîm Delfrydol' i lunio The Oxford Literary History of Wales
13 June 2007Penodwyd Dr Damian Walford Davies o'r Adran Saesneg yn Olygydd Cyffredinol ar 'The Oxford Literary History of Wales' a gomisiynwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen.
Eisiau gwybod mwy am ynni adnewyddadwy?
18 June 2007Cynhelir yr olaf mewn cyfres lwyddiannus iawn o weithdai ar Ynni Adnewyddadwy yn y Lanfa yn Nhrefechan, Aberystwyth, ddydd Iau 21 Mehefin rhwng 1 a 3.30 y prynhawn.
Bwrsariaeth PhD Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
18 June 2007Mae'r Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn gwahodd ceisiadau am fwrsariaeth 3 blynedd gwerth £12,300 gyda ffioedd. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Gwener 22 Mehefin.
Bwrsariaethau radio
22 June 2007Mae BBC Cymru yn cynnig dwy fwrsariaeth tuag at gostau ffioedd dysgu ar gwrs MA Cynhyrchu Radio newydd yn Adran Astudiaeth Theatr, Ffilm a Theledu.
Dr Bill Edwards (1944 – 2007) <br />
1 June 2007Tristwch o'r mwyaf yw rhoi gwybod am farwolaeth y Dr Bill Edwards. Ers 1969 bu'r Dr Edwards, a fu farw ddydd Llun ar ôl salwch hir, yn aelod o'r adran Daearyddiaeth (Sefydliad Daearyddiaeth a'r Gwyddorau Daear erbyn hyn) ac yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau ers mis Awst 2005.