Gwahodd ffisegydd i Stryd Downing
9 March 2007Mae Alan Wood, myfyriwr doethuriaeth sydd yn astudio 'tywydd y gofod', wedi derbyn gwahoddiad i dderbyniad gyda'r Prifweinidog, Tony Blair, yn 10 Stryd Downing ddydd Llun 12 Mawrth.
Delweddu 3D i hwyluso anhawsterau cynllunio ffermydd gwynt
8 March 2007Mae See3D, Canolfan Ddelweddu newydd Aberystwyth, yn cydweithio gyda West Coast Energy, i ddatblygu meddalwedd delweddu fydd yn cynorthwyo i hwyluso ceisiadau cynllunio am ffermydd gwynt.
Lansio Partneriaeth o Safon Fyd-Eang
8 March 2007Cynhaliwyd lansiad swyddogol y Bartneriaeth Ymchwil a Menter rhwng Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Phrifysgol Cymru, Bangor, ar 7 Mawrth yn adeilad Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
'Olrhain ein dealltwriaeth o'r bydysawd – ydy'n ni'n deall mwy na'n cyndeidiau?'
20 March 2007Bydd Dr Rhodri Evans o Brifysgol Morgannwg yn traddodi Darlith Walter Idris Jones ar nos Fercher yr 21ain o Fawrth am 7 o'r gloch yn narlithfa A12 yn adeilad Hugh Owen ar gampws Penglais.
Cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant
26 March 2007Mae'r Cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle am brofiad unigryw ac amhrisiadwy ar gyfer myfyrwyr Aberystwyth, lle mae nhw'n cael y cyfle i dreulio blwyddyn yn gweithio i gwmni rhwng eu hail a'u trydedd blwyddyn.
Llwyddiant Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth
16 March 2007Mae disgyblion Ysgol Llwyn yr Eos yn dathlu wedi llwyddiant yng nghystadleuaeth Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth gafodd ei threfnu gan y Brifysgol a Sefydliad Ymchwil yr Amgylchedd a Tir Glas.
Y Ganolfan Astudiaethau Addysg yn dathlu Diwrnod y Llyfr
26 March 2007Ar yr 2il of Fawrth bu'r Canolfan Astudiaethau Addysg yn dathlu Diwrnod y Llyfr drwy lansio Hwyl Drwy'r Flwyddyn, cyfres o 12 llyfr mawr, CD sain a llawlyfr athrawon ar gyfer disgyblion Cymraeg ail iaith 5 i 8 oed, yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth.
'Climate change from a geological perspective'
6 March 2007Rhewlifegydd o Aberystwyth i roi darlith gyhoeddus fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant Cymdeithas Rhewlifegol Llundain
Cystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr
20 March 2007Gyda'r paratoadau terfynol ar waith ar gyfer y Gystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr sy'n cael ei chynnal ddydd Mercher 21 Mawrth, mae 13 o dimoedd wedi eu cadarnhau i gymryd rhan.
Cynnig i gyfuno â IGER
21 March 2007Mae PCA a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Biodechnegol a Biolegol yn ystyried a ddylai'r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a'r Amgylchedd (IGER) ym Mhlas Gogerddan gael ei drosglwyddo i sector Prifysgolion Cymru. Byddai'r uniad, sydd yn cynnwys Prifysgol Bangor yn ogystal, yn creu Canolfan ymchwil o bwys rhyngwladol.
Cefnogaeth Cynnig Boreuol i'r Bartneriaeth Ymchwil
20 March 2007Mae Cynnig Boreuol sydd yn hyrwyddo Partneriaeth Ymchwil a Menter Prifysgolion Aberystwyth a Bangor wedi derbyn cefnogaeth dros 60 AS cyn lansiad Seneddol y Bartneriaeth.
Lansio Canolfan Ymarfer y Gyfraith
30 March 2007Mae Adran y Gyfraith a Troseddeg wedi sefydlu Canolfan Ymarfer y Gyfraith fydd yn darparu rhaglenni hyfforddiant proffesiynol a'r Cwrs Ymarfer y Gyfraith gafodd ei lansio yn ddiweddar.
Thema Casino yn talu i'r Mathemategwyr
28 March 2007Coronwyd y Mathemategwyr yn bencampwyr Cystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr 2007 ddydd Mercher 21 Mawrth gan ennill y brif wobr o £1500 a noddwyd gan RPS Group.
University Challenge
27 March 2007Wedi buddugoliaethau yn erbyn Bryste a Choleg Merton Rhydychen trechwyd tim 'University Challenge' Aber gan dim Prifysgol Warwick yn rownd yr wyth olaf o 165 yn erbyn 130.
Hyrwyddo llenyddiaeth gyfoes
28 March 2007Mae'r Adran Saesneg wedi sefydlu cytundeb cydweithio gyda'r cyhoeddiad llenyddol chwarterol New Welsh Review a'r cyhoeddwr annibynnol Cymreig llwyddiannus Parthian, i godi proffil llenyddiaeth gyfoes ofewn y Brifysgol a thu hwnt.