Cyn-lywydd Y Brifysgol yn trafod Diwygio Ty'r Arglwyddi <br />
1 February 2008Bydd Yr Arglwydd Elystan Morgan yn traddodi darlith gyhoeddus ar Ddiwygio Tŷ'r Arglwydd, nos Wener 8 Chwefror.
Gwreiddiau Celtaidd Ewrop
1 February 2008Adran Gymraeg y Brifysgol yn derbyn grant o £390,889, a fydd yn caniatáu iddynt chwilio am dystiolaeth o'r iaith Geltaidd gynharaf o'r iaith Geltaidd y datblygodd y Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd eraill ohoni.
Bywyd ar y Blaned Mawrth?
25 February 2008Mae tim o dan arweinyddiaeth Dr Dave Barnes o'r Adran Gyfrifiadureg yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o baratoi'r Exo Mars Rover ar gyfer taith Aurora yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd i'r Blaned Mawrth yn 2013.
Agor pwll
11 February 2008Mae pwll nofio'r Brifysgol, sydd newydd gael ei adnewyddu, wedi ei ail agor yn swyddogol gan un o'i nofwyr mwyaf triw, y Cyfarwyddwr Cynllunio Mr Brian Foster.
Yr Athro Gerd Althoff
1 February 2008Bydd yr academydd blaenllaw o'r Almaen, Yr Athro Gerd Althoff o Brifysgol Munster, un o sylfaenwyr y mudiad "Hanes Gwleidyddol newydd" yn traddodi darlith ar "Eironi mewn Gwleidyddiaeth Ganoloesol" Dydd Llun yr 11eg o Chwefror.
Cyfnodolyn dwyieithog y gyfraith
8 February 2008Y mae rhifyn diweddaraf y Cambrian Law Review, cylchgrawn cyfreithiol sydd dan olygyddiaeth staff a myfyrwyr Adran y Gyfraith a Throseddeg yn torri tir newydd gan ymddangos am y tro cyntaf mewn 35 mlynedd fel rhifyn dwyieithog.
Cyllid Eingl-Normaneg
1 February 2008Mae'r tim sydd yn gweithio ar y geiriadur Eingl-Normaneg wedi sicrhau £873,669 ar gyfer gwaith ar lythrennau J, K ac L.
Esbonio cwymp scafell iâ
7 February 2008Mewn ysgrif yn y Journal of Glaciology, mae'r Athro Neil Glasser yn dadlau fod cwymp Scafell Iâ Larsen B wedi digwydd o ganlyniad i nifer o ffactorau ac nid cynhesu byd-eang yn unig, fel a dybiwyd ar y dechrau.
Gwobr Werdd
1 February 2008Mae cynllun ailgylchu bagiau lelog hynod lwyddiannus y Brifysgol wedi derbyn clod uchel gan Gwobrau Aberystwyth Gyntaf, cynllun gwobrwyo newydd sydd yn cydnabod ymarfer da ac ardderchowgrwydd sydd wedi ei arddangos gan unigolion, sefydliadau neu fusnesau Aberystwyth.