Gwyddonwyr IBERS i Wella Diogelwch Cig

Gwartheg yn pori

Gwartheg yn pori

04 Chwefror 2010

Gwyddonwyr IBERS yn mynd i'r afael â diogelwch cig

Mae gwyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol , Amgylcheddol  a Gwledig  Prifysgol Aberystwyth ar fin chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau diogelwch cig.

Mae'r Adran wedi ennill cytundeb pwysig i ymchwilio i ddulliau o ganfod achosion o halogi cig a hynny mewn ymgais i atal heintiau difrifol fel E.coli rhag lledu.   

Gall cig gael ei halogi mewn lladd-dai pan fydd micro-organebau mewn deunydd gwastraff yn cyffwrdd â chig wrth iddo gael ei brosesu. Gall yr organebau hyn fod mor fach nes ei fod bron yn amhosib eu canfod. 

Dywed y Dr Michael Lee o IBERS y bydd y prosiect ymchwil newydd - sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru - yn helpu i ganfod cig halogedig yn y lladd-dy gan arwain at well diogelwch bwyd.

“Mae'r prosiect ymchwil hwn yn werth cyfanswm o £460,000, gyda  Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyfrannu £230,000 a phartneriaid diwydiannol yn cyfrannu swm cyfatebol. Mi fydd y prosiect tair mlynedd yn datblygu marcwyr cloroffyl naturiol y gellid eu hychwanegu i borthiant anifeiliaid. Yna caiff y cig ei sgrinio yn y lladd-dy gan ddefnyddio delweddu fflwrolau a fydd yn amlygu'r marcwyr, ac yn canfod halogiad o wastraff anifeiliaid yn y cig” meddai Dr. Lee.

Ariennir y prosiect trwy raglen Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B) Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd yn annog ymchwil a datblygu ar y cyd rhwng sefydliadau academaidd a diwydiant.

Dywedodd Leslie Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau, fod hwn yn brosiect ymchwil hynod bwysig oedd  âa'r potensial i gael effaith arwyddocaol ar ddiogelwch bwyd yn y DG.

“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ymchwil a datblygu i brosesau a chynhyrchion newydd,  ac mae’r cynllun A4B yn anelu i sicrhau y gallwn fanteisio i’r eithaf ar effaith economaidd ein sefydliadau academaidd.

“Mae’n darparu cyllid hanfodol i alluogi’r prosiectau yma i symud  ymlaen, gyda’r nod o greu twf hir dymor o fewn sectorau strategol.”

Mae cysylltiad agos rhwng y gwaith yn IBERS a Phrosiect ProSafeBeef y Comisiwn Ewropeaidd, sydd â'r nod o leihau halogiad o bathogenau mewn cig. Bydd prosiect Dr Lee yn adeiladu ar y gwaith datblygu marcwyr cloroffyl a wnaed gan ProSafeBeef, gan archwilio'r defnydd posibl iddynt mewn diwydiant.

Un o'r cwestiynau allweddol dan sylw fydd penderfynu sut gaiff y bydd y marcwyr hyn eu rhoi i'r anifeiliaid - eu bwydo mewn porthiant dwys, mewn dŵr neu ychwanegion mwynau. Wedi hynny, bydd y system ddelweddu yn cael ei datblygu.

Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan y partneriaid canlynol:
British Chlorophyll Co.Ltd,  Bwydydd Castell Howell Cyf., Randall Parker Foods Ltd. (lladd-dy) Waitrose Ltd. a  Wynnstay Group PLC (Gwneuthurwyr Porthiant).

Cychwynnodd y gwaith ar y prosiect ddechrau mis Hydref 2009 gyda'r arbrofion yn dechrau ym mis Tachwedd 2009, ac mae'r tîm bellach wedi penodi myfyriwr PhD.

Yn ôl y Dr Lee: "Mae'n wych fod Prifysgol Aberystwyth a'i phartneriaid yn gweithio ar gynnyrch sydd â'r potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae manteision posib y prosiect hwn yn enfawr - i gynhyrchwyr cig, lladd-dai, archfarchnadoedd ac yn y pen draw wrth gwrs, i siopwyr. Rwyf i'n hynod o falch ein bod ni'n gallu chwarae rhan mewn helpu i gynyddu hyder cwsmeriaid yn y cig mae’n nhw'n ei brynu."