Aberystwyth yn San Steffan

San Steffan

San Steffan

19 Mai 2010

Prifysgol Aberystwyth yn llongyfarch ASau newydd

Wrth i’r Senedd yn San Steffan ail ymgynnull ar ôl yr etholiad, mae deuddeg o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth (pedwar Ceidwadwr, dau Lafur, tri Democrat Rhyddfrydol, dau o Blaid Cymru ag un Annibynnol) yn dathlu buddugoliaethau etholiadol.

Dywedodd Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r Brifysgol yn falch o’i chyn-fyfyrwyr a’r hyn y maent yn ei gyflawni ac wrth ein bodd bod y Brifysgol wedi ei chynrychioli’n gryf gan ei graddedigion yn San Steffan.

“Rwy’n siŵr bod y profiadau a gawsant yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol wedi dylanwadu ar drywydd eu gyrfa ac fe hoffwn feddwl bod Prifysgol Aberystwyth, a’r profiadau eang sydd ar gael yma, wedi eu cynorthwyo i gyrraedd y swyddi arweinyddol ym maent ynddynt.  Hoffwn i, a phawb yn y Brifysgol, eu llongyfarch a dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.”

Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth sydd yn Aelodau Seneddol

Guto Bebb AS (Ceidwadwr) wedi ei ethol i gynrychioli etholaeth newydd Aberconwy yng Ngogledd Cymru.  Mae Mr Bebb yn raddedig mewn BA Hanes (1990) a, chyn ei ethol roedd yn rhedeg ei ymgynghoriaeth datblygu economaidd ei hun yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Datblygu Busnes i Innovas Cymru.

Rehman Chishti AS
(Ceidwadwr) wedi ei ethol i gynrychioli etholaeth Gillingham a Rainham. Yn raddedig yn y Gyfraith (2000) o Brifysgol Aberystwyth, bu Mr Chishti yn gweithio fel bargyfreithiwr yn Llundain cyn ei ethol eleni.

Glyn Davies AS
(Ceidwadwr) wedi ei ethol fel AS dros Maldwyn.  Fe gollodd ei sedd yn etholiad Llywodraeth y Cynulliad yn 2007 ar ôl gwasanaethu fel AC rhanbarthol am wyth mlynedd.  Pan oedd yn 50 mlwydd oed, dewisodd Mr Davies astudio Diploma mewn Cyfraith a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Jonathan Edwards AS (Plaid Cymru) yw’r AS dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.  Mae gan Mr Edwards radd BSc Econ mewn Hanes a Gwleidyddiaeth (1997) ag MSc mewn Hanes Rhyngwladol. Cyn ei ethol bu Mr Edwards yn gweithio fel Pennaeth Staff ar gyfer Rhodri Glyn Thomas AC ag Adam Price AS.

Stephen Gilbert AS (Democratiaid Rhyddfrydol) wedi ei ethol i’r etholaeth newydd o St Austell a Newquay.  Yn raddedig mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol (1998) fe oedd Cynghorydd ifancaf Cernyw pan yr etholwyd yn 1998 ag yntau yn 21 mlwydd oed. Bu Mr Gilbert yn gweithio fel ymgynghorydd busnes cyn ei ethol i’r Senedd ym mis Mai eleni.

Boneddiges Sylvia Hermon AS (Annibynnol) yw’r AS ar gyfer etholaeth North Down ers ei hethol yn 2001. Yn wreiddiol cafodd ei hethol dros Ulster Unionist Party (UUP) ond bellach mae hi’n aelod Annibynnol. Yn raddedig yn y Gyfraith (1977), bu yn darlithio am nifer o flynyddoedd ym Mhrifysgol Queens, Belfast cyn mynd i fyd gwleidyddiaeth ym 1993.

Elfyn Llwyd AS (Plaid Cymru) yn AS ers 1996 ar gyfer etholaeth Meirionydd Nant Conwy ac fe’i hetholwyd i gynrychioli’r etholaeth newydd Dwyfor Meirionydd. Yn raddedig yn y Gyfraith (1974) o Brifysgol Aberystwyth, bu hefyd yn gweithio fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr.

Dan Rogerson AS (Democrat Rhyddfrydol) yw’r AS ar gyfer Gogledd Cernyw ers 2005.  Yn ystod y Senedd ddiwethaf fe oedd y Gweinidog yr Amgylchedd, Tai, Celfyddydau a Threftadaeth yr wrthblaid ar gyfer Democratiaid Rhyddfrydol ag, yn fwy diweddar, Llywodraeth Leol.  Yn raddedig mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol (1996), bu hefyd yn gweithio i lywodraeth leol.

Chris Ruane AS (Llafur) aelod Dyffryn Clwyd, etholaeth y mae wedi ei chynrychioli ers 1997.  Yn raddedig mewn Gwleidyddiaeth (1977), yn ystod y llywodraeth ddiwethaf bu’n gweithio fel PPS i Peter Hain. Cyn ei ethol bu Mr Ruane yn athro ysgol gynradd ag yn Ddirprwy Brifathro.

Col Bob Stewart AS (Ceidwadwr) wedi ei ethol fel AS ar gyfer Beckenham. Gyda chefndir milwrol, ym 1974 fe ddewiswyd gan y Fyddin i ddod i Aberystwyth i astudio am radd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Yn dilyn ei yrfa filwrol, ble y buodd yn gweithio fel Cadlywydd Prydeinig y Cenhedloedd Unedig ym Mosnia, rôl a enillodd iddo’r DSO - Distinguished Service Order, bu hefyd yn gweithio fel ysgrifennydd, darlledwr a darlithydd llawrydd.

Gareth Thomas MP (Llafur) etholwyd fel AS i Harrow West ym 1997. Yn ystod y llywodraeth Lafur ef oedd y Gweinidog Gwladol yr Adran Ddatblygu Ryngwladol.  Yn raddedig mewn Economeg (1998) ef oedd y Gweinidog a gyflwynodd y ddeddfwriaeth drafft i atal ysmygu mewn caffis a thai bwyta.

Mark Williams AS
(Democratiaid Rhyddfrydol) wedi ei ail-ethol yn AS dros Geredigion, yr etholaeth ar gyfer Prifysgol Aberystwyth.  Yn raddedig mewn Gwleidyddiaeth (1987), fe’i hetholwyd yn gyntaf yn 2005 a chyn hynny buodd yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Llangors, Powys.