Lleihau allyriadau carbon

Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon

Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon

21 Mai 2010

Dyfarnu Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon i Brifysgol Aberystwyth

Mae ystod eang o fesurau sydd wedi eu cyflwyno gan Brifysgol Aberystwyth er mwyn torri allyriadau carbon wedi derbyn cydnabyddiaeth yr wythnos hon gyda’r chyhoeddiad fod Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon wedi ei ddyfarnu i’r Brifysgol.

Yn ystod y 4 blynedd a aeth heibio mae’r Brifysgol wedi buddsoddi bron i £1,000,000 er mwyn arbed ynni. Mae'r mesurau yn cynnwys sustem sydd yn mesur y defnydd o ynni ac yn adnabod arbedion posibl ar gyfer y dyfodol, gwell insiwleiddio, ffenestri dwbl newydd a goleuo ynni-effeithiol.

Dangosodd asesiad gan Gwmni Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon o ddefnydd ynni'r Brifysgol rhwng Awst 2006 a Gorffennaf 2009 ostyngiad mewn allyriadau carbon o dros 400 tunnell y flwyddyn, o 12,700 i 12,300, toriad o 3%.   

Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon yw’r dyfarniad carbon cyntaf yn y byd sydd yn galw ar sefydliad i fesur, rheoli a lleihau allyriadau carbon ar draws ei gweithgareddau.

Dywedodd Dr John Harries, Dirprwy Is-Ganghellor sydd â chyfrifoldeb am Ystadau:
“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi derbyn Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon. Mae’n ffordd wych o ddangos ein bod wedi gweithredu ar newid hinsawdd a bydd yn ein cynorthwyo i gyfleu ein hymrwymiad at yr amgylchedd i’n rhan ddalwyr.”

“Mae’n arbennig o amserol fod y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn ystod Wythnos Gynaliadwyedd Cymru a ninnau wedi bod yn arddangos mentrau llwyddiannus megis y cynllun beicio i’r gwaith a’r toriadau sylweddol yn nifer y milltiroedd bwyd yn ein bwytai.”

“Mae torri carbon yn flaenoriaeth i ni fel Prifysgol ac yn arwain at fanteision ariannol gwirioneddol. Rydym yn disgwyl cyrraedd y targed o dorri 10% mewn allyriadau carbon erbyn 2010 fel rhan o Gynllun Rheoli Carbon Addysg Uwch a ddechreuodd yn 2005, ac rydym wedi ymrwymo i wneud torriadau pellach yn y dyfodol.”

Dywedodd Harry Morrison, Rheolwr Cyffredinol Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon:
“Mae Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon yn tystio fod sefydliad wedi cymryd camau dilys i leihau ei effaith ar newid hinsawdd drwy dorri allyriadau carbon. Rydym yn llongyfarch Prifysgol Aberystwyth ar yr hyn y mae eisoes wedi ei gyflawni, a’r gwaith y mae’n parhau i’w wneud er mwyn lleihau allyriadau carbon.”

Roedd Aberystwyth yn un o 19 prifysgol flaengar i ymaelodi â Chynllun Rheoli Carbon Addysg Uwch yr Ymddiriedolaeth Garbon pan gafodd ei lansio yn Ebrill 2005. Nod y cynllun oedd cynnig cymorth a chyngor i brifysgolion a cholegau addysg uwch er mwyn eu cynorthwyo i leihau allyriadau carbon.

Yn ogystal â gwelliannau i’r ystâd, mae’r Brifysgol wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda chwmnïoedd teithio lleol er mwyn lleihau’r defnydd o geir preifat o fewn ac o amgylch tref Aberystwyth. Yn ogystal â lleihau’r tagfeydd, mae’r cerdyn AHA (Ar Hyd Aber) yn golygu arbedion blynyddol o dros 12,000 litr o danwydd sydd gyfystyr â 32 tunnell o garbon.