Aberystwyth ar restr fer am wobr Datblygiad Cynaliadwy

Campws Penglais

Campws Penglais

24 Medi 2010

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei chynnwys ar restr fer categori ‘Cyfraniad Nodedig i Ddatblygiad Cynaliadwy’ yng ngwobrau 2010 y Times Higher Education.

Mae Aberystwyth yn un o chwe phrifysgol sydd wedi eu henwebu; y lleill yw Bradford, Derby, Northampton, London Queen Mary a Winchester.

Dros y 5 mlynedd diwethaf mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud ymrwymiad sylweddol i fod yn sefydliad mwy cynaliadwy a’r ffordd y mae yn defnyddio bwyd sydd wedi ei gynhyrchu yn lleol.

Cafodd y gwaith yma ei gydnabod yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2009-10 Cymru pan gyflwynwyd y wobr Aur i’r Brifysgol am Ddatblygiad Cynaliadwy.

Heddiw daw hyd at 90% o fwyd y Brifysgol o ffermydd y Brifysgol ei hun neu gyflenwyr lleol, gan leihau milltiroedd bwyd yn sylweddol iawn.

Bellach yn ei 6ed blwyddyn mae Gwobrau'r Times Higher Education yn un o uchafbwyntiau’r calendr academaidd ac yn ddathliad o’r hyn sydd orau o’r sector.

Eleni derbyniwyd mwy na 500 cais oddi wrth fwy na 120 o sefydliadau addysg uwch. Cafodd y rhestr fer ei chyhoeddi ar ddydd Iau'r 23ain o Fedi a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar y 25ain o Dachwedd.