Chwarae plant

Yr iCub.

Yr iCub.

16 Chwefror 2011

Robot dynol i efelychu plentyn wrth ‘ddysgu’

Mae’r Grŵp Roboteg Datblygiadol sy’n rhan o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn robot dynol, un o bedwar yn unig sydd yn bodoli yn y Deyrnas Gyfunol, fel rhan o’i waith ar brosiect ymchwil Ewropeaidd.

Amcan prosiect “IM-CLeVeR” (Intrinsically Motivated Cumulative Learning Versatile Robots) yw datblygu rheolyddion robot newydd yn seiliedig ar syniadau a ysbrydolwyd gan niwrowyddoniaeth a seicoleg.

Cyllidwyd y prosiect gan y Gymuned Ewropeaidd sydd wedi cyfrannu 5.9m Ewro tuag ato, gyda’r tîm yn Aberystwyth yn derbyn £760,000.

Mae’r prosiect yn cynnwys 10 sefydliad partner ar draws Ewrop yn gweithio mewn meysydd sy’n cynnwys roboteg, niwrowyddoniaeth, seicoleg ddatblygiadol, a dysgu peiriant.

Y gobaith yw, drwy ddefnyddio ymagwedd amlddisgyblaethol, y bydd yn gallu creu robotau sy’n gallu dysgu mewn ffyrdd mwy hyblyg na’r rheini a raglennir gan ddefnyddio dulliau traddodiadol.

Mae ymchwil y Grŵp Roboteg Datblygiadol yn canolbwyntio ar ganfod prosesau datblygu mewn babanod a’u trosi’n strategaethau ar gyfer dysgu mewn roboteg.

Un elfen bwysig yw’r cyfyngiadau ar ddatblygiad mewn babanod, sy’n atal y baban rhag defnyddio rhai galluoedd penodol cyn i eraill gael eu meistroli’n ddigonol.

Drwy osod cyfyngiadau tebyg ar y robot, mae’r grŵp yn credu y gall oresgyn problemau gorlwytho synhwyraidd sy’n llesteirio systemau dysgu robotig eraill.

Cynlluniwyd y robot iCub, a adeiladwyd yn yr Eidal, i fod yr un maint ac yn meddu ar yr un ystod o symudiadau â phlentyn bach.

Bydd ymchwilwyr yn Aberystwyth yn ei ddefnyddio fel platfform i brofi ac arddangos eu damcaniaethau, ac i integreiddio ymchwil timau eraill yn y prosiect IM-CLeVeR. 

Dywedodd Dr James Law, aelod o’r Grŵp Roboteg Datblygiadol: “Mae cysylltiad clos rhwng datblygiad mewn babandod â chorff y plentyn. Gyda’r robot hwn gallwn ymchwilio sut mae babanod yn adeiladu eu sgiliau’n gynyddol, gan ddefnyddio eu cyrff i drafod a dysgu am eu hamgylchedd.”

Y tîm IM-CLeVeR yn Aberystwyth yw’r Athro Mark Lee (Arweinydd y Tîm), Dr Martin Hülse, Dr James Law, a Dr Patricia Shaw.

Partneriaid y cynllun yw:
Consiglio Nazionale delle Ricerche, Yr Eidal;
Universita Campus Bio Medico di Roma, Yr Eidal;
Stiftung Frankfurt Institute for Advanced Studies, Yr Almaen;
Scuola Universitaria Professionale della Svizzera Italiana, Y Swisdir;
Prifysgol Sheffield;
Prifysgol Ulster;
Aberystwyth.

AU2011