Canolfan Astudiaethau Ewropeaidd

Cynhelir y lansiad yn Adeaild Gwleidyddiaeth Rhyngwladol

Cynhelir y lansiad yn Adeaild Gwleidyddiaeth Rhyngwladol

17 Chwefror 2011

“Creu arweinyddion ar gyfer dyfodol Ewrop drwy addysgu o safon fyd-eang ”

Heddiw, 17eg Chwefror, bydd Prifysgol Aberystwyth yn dathlu ail-lansiad Canolfan Astudiaethau Ewropeaidd (CES) fel canolfan hyfforddi traws-adrannol, aml-ddisgyblaethol sy’n seiliedig ar ymchwil. Gweledigaeth y Ganolfan yw bod yn arwain y byd mewn astudio a dysgu ynghylch integreiddiad Ewropeaidd pellach, a pherthynas Ewrop gyda’r byd y tu allan.

Sefydlwyd CES yn wreiddiol yn 1996, a daeth yn Ganolfan Rhagoriaeth Jean Monnet yn 2000 ar ôl derbyn cydnabyddiaeth swyddogol gan yr Undeb Ewropeaidd. Ar y pryd, Canolfan Jean Monnet oedd yr unig Ganolfan o’i bath yng Nghymru, ac un o’r ychydig ganolfannau oedd yn bodoli yn y DG.  Yn 2010 penderfynwyd ail-lansio’r Ganolfan gyda gweledigaeth o ‘greu arweinyddion ar gyfer dyfodol Ewrop drwy addysgu o safon fyd-eang’. 

Meddai Dr Elena Korosteleva, Uwch-Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ewropeaidd a Chyfarwyddwr y Ganolfan, “Nod CES yw datblygu rhagoriaeth drwy addysgu dyfeisgar, ymchwil a datblygiad proffesiynol parhaus ym mhob maes sydd â ffocws Ewropeaidd.”

“Mae llawer o arbenigedd ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio ar wledydd sydd ar gyrion Ewrop, ac ar berthynas yr Undeb Ewropeaidd gyda phwerau byd-eang (e.e. India, Twrci, Rwsia, yr Unol Daleithiau) a’r Gymuned Ewropeaidd (Twnisia, yr Aifft, a’r Iorddonen, bob un ohonynt wedi bod â lle amlwg yn y newyddion, a hefyd Dwyrain Ewrop).  Bydd CES yn gwneud ei gorau i wau’r holl ddiddordebau ymchwil yma gyda’i gilydd, er mwyn ehangu ein dealltwriaeth o’r UE fel grym byd-eang”.

Bydd y Ganolfan yn cynnig darlithoedd allweddol, yn trefnu digwyddiadau, trafodaethau ac ymweliadau i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn rhagoriaeth ei haddysgu ac mae nifer o Gymrodorion y Ganolfan eisoes un ai yn gydnabyddedig yn sefydliadol neu’n genedlaethol am eu harbenigedd ym maes dysgu.

Bydd y lansiad yn digwydd ar 17 Chwefror 2011 am 11.00 ym  Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol. Caiff y Ganolfan ei lansio’n swyddogol gan yr Arglwydd Robin Teverson, Cadeirydd Is-Bwyllgor UE ar Faterion Tramor Tŷ’r Arglwyddi a chyn Aelod o’r Senedd Ewropeaidd, a’r Is-Ganghellor yr Athro Noel Lloyd. Bydd  yr Arglwydd Teverson yn mynd ymlaen i roi prif araith ar y thema ‘Ewrop Hyderus mewn Byd Cymhleth’. Bydd y digwyddiad, sy’n agored i’r cyhoedd, hefyd yn egluro amcanion strategol y Ganolfan.

Meddai'r Dirprwy Is-Ganghellor Yr Athro Martin Jones, sy'n gyfrifol am ddysgu ac addysgu,
“Mae'r Ganolfan ar gyfer Astudiaethau Ewropeaidd yn dangos yn eglur genhadaeth y Brifysgol i barhau i fod yn Brifysgol dysgu ac ymchwil sy'n gystadleuol yn rhyngwladol a bydd yn darparu myfyrwyr gyda chyfleoedd dysgu o'r safon uchaf drwy gynnig amgylchedd astudio nodedig. Bydd y Ganolfan yn sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i gynhyrchu ymchwil a chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus o safon uchel i bawb. Rwy'n dymuno bob llwyddiant i staff a myfyrwyr gyda'u hymdrechion.  Mae hyn yn dangos blaengarwch eithriadol."

Nodau strategol y Ganolfan fydd datblygu addysgu ym maes dealltwriaeth myfyrwyr israddedig o'r Undeb Ewropeaidd,  yn ogystal â chynnig llwybrau cynnydd ar gyfer astudiaethau uwchraddedig neu yrfaoedd mewn sefydliadau Ewropeaidd, cyfundrefnau rhyngwladol a busnesau rhyngwladol. Ymhellach, bydd y Ganolfan yn paratoi myfyrwyr uwchraddedig ar gyfer hyfforddiant doethur neu godi eu proffiliau cyflogadwyedd ar gyfer gyrfaoedd proffesiynol lefel uchel yn Ewrop.

Bydd gweithgareddau CES yn cynnwys 'llais myfyrwyr' cryf, gyda myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig yn gweithio ar y cyd  gydag aelodau staff i redeg y Ganolfan. Bydd y ganolfan yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau bob blwyddyn yn cynnwys darlithoedd, prif areithiau, seminarau, gweithdai Ewropeaidd, trafodaethau, tripiau ac interniaethau. Meddai Igor Merheim-Eyre, myfyriwr ail flwyddyn mewn Gwleidyddiaeth Ewropeaidd, “Gan fy mod i wedi cael fy magu yn Slofacia yn yr 1990'au, pan oedd y Dwyrain wedi ‘dychwelyd’ i Ewrop, rydw i wedi dod yn ymwybodol o'r hanes Ewropeaidd rydyn ni'n ei rannu, o Galway i'r Urals. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael dod i ymwneud â'r Ganolfan – mae gennym ni ddilynwyr ar Facebook eisoes a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiadau sydd wedi cael eu trefnu ar gyfer gweddill eleni.”

Mae Athina Gkouti, myfyriwr PhD a Gweinyddydd ar gyfer y Ganolfan yr un mor frwd. “ Fel gwyddonydd gwleidyddol rwy'n astudio'r berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Thwrci – sy'n wlad sy'n ymgeisio i fod yn rhan o'r UE. Mae'r arbenigedd ymchwil sydd gennym ym Mhrifysgol Aberystwyth  ac o fewn y Ganolfan yn rhoi inni gipolwg unigryw ar ba gyfeiriad y gallai Ewrop fynd yn y dyfodol.”

Nododd Dr Sangeeta Khorana, Darlithydd mewn Cyllid a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan, “Mae  addysgu deddfwriaethol yn ganolog i'n gweithgareddau – rydym eisoes wedi trefnu ymweliad gan un o'n ASEau Cymreig, taith i'r Senedd Ewropeaidd yn Strasbourg ym mis Mehefin a chyfleoedd ar gyfer interniaeth i fyfyrwyr gyda'r Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel.

Yn y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd, bydd gan fyfyrwyr sydd â sgiliau trosglwyddadwy fantais yn y farchnad gyflogaeth gystadleuol. Bydd myfyrwyr sy'n ymwneud â;r Ganolfan yn gallu ennill ystod ehangach o brofiad, a gall hyn fod yn ffactor dyngedfennol i gyflogwr wrth recriwtio staff newydd.”

Mae cyfranogi yn CES yn ddewis i unrhywun ym Mhrifysgol Aberystwyth sy'n dymuno ehangu eu gwybodaeth am Ewrop. Mae'n agored i unrhywun sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth sydd â diddordeb i ymestyn eu cymwysterau proffesiynol a ehangu eu dealltwriaeth a'u profiad o'r holl faterion Ewropeaidd mewn amgylchedd addysgol gefnogol a chalonogol.

AU4311