Neuaddau preswyl newydd

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

10 Mawrth 2011

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dechrau ar y broses o bwrcasu neuaddau preswyl newydd a fydd yn darparu llety hunan arlwyo modern ar gyfer 1000 o fyfyrwyr. 

Ddydd Mawrth yr 8fed o Fawrth cyhoeddodd y Brifysgol hysbysiad cytundeb yn y cynfodolyn  Official Journal of the European Union, yn gwahodd datblygwyr i fynegu ei diddordeb yn y cynllun.

Mae’r Brifysgol yn chwilio am bartneriaid ac atebion creadigol i ateb y galw am lety o’r safon uchaf ar gyfer myfyrwyr y dyfodol.

Mae’r datblygiad posibl yn cynrhychioli cynnydd o 500 gwely ar yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, yn ogysal â llety i gymryd lle darpariaeth bresenol, a bydd yn gyfle i adeiladu ymhellach ar y profiad unigryw y mae Aberystwyth yn ei gynnig.

Bydd y datblygiad yn cynnwys gwell ardaloedd dysgu a chymunedol sydd yn adlewyrchu agwedd flaengar y Brifysgol.

Yn ddibynnol ar gynllunio, bydd y datblygiad wedi ei leoli ar fferm Penglais, ar dir tu cefn i’r pentref myfyrwyr Pentre Jane Morgan. Does dim disgwyl i’r gwaith adeiladu ar y neuaddau newydd ddechrau tan Hydref 2012 ar y cynharaf.

Mae disgwyl i’r gost adeiladu fod rhwng £40m a £45m.

Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Mae Aberystwyth yn cynnig un o’r profiadau myfyrwyr gorau yn y Deyrnas Gyfunol. Mae’r datblygiad yn cynrychioli’r elfen strategol fwyaf yng nghynllun strategol y Brifysgol ac yn tanlinellu ei hymrwymiad i wella safon llety myfyrwyr gyda’r pwyslais ar adnoddau hunan arlwyo en-suite.”

“Cyhoeddi’r hysbysiad cytundeb yr wythnos hon yw’r cam cyntaf a’r nod yw gwybod pwy sydd a diddoreb mewn ymgymeryd â’r gwaith.”

“Wrth i’r broses fynd rhagddi bydd y Brifysgol yn gweithio yn agos gyda’r gymuned leol, cynllunwyr a chynrychiolwyr myfyrwyr er mwyn sicrhau fod y neuaddau newydd yn cynnig y profiad preswyl cymdeithasol a thechnolegol y bydd cenedlaethau o fyfyrwyr Aberystwyth yn ei ddeisyfu.”

AU5511