‘Dysgu drwy Gysylltu – Rhwydweithiau Busnes ar Waith’

Dysgu drwy Gysylltu

Dysgu drwy Gysylltu

18 Mawrth 2011

Bydd y Dr Carl Clowes, sefydlwr Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn siarad mewn digwyddiad i fusnesau bychain ‘Dysgu drwy Gysylltu – Rhwydweithiau Busnes ar Waith’ yn Aberystwyth ar 31 Mawrth. 

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn 1978, gan drosi’r hen bentref chwarela ar lannau Llŷn i Ganolfan Iaith a Threftadaeth Cymru. Pan symudodd y Dr Clowes a’i wraig Dorothi o Fanceinion i Wynedd yn 1970 i redeg meddygfa yn Llanaelhaearn, roeddent yn benderfynol y byddent yn magu eu plant yn siaradwyr Cymraeg.

Ond roedd y gymuned ar fin gweld y chwarel ithfaen leol a’r ysgol yn cau, ac fe deimlent y byddai angen cyfleoedd newydd am waith pe bai’r gymuned yn mynd i oroesi. Drwy gael cefnogaeth busneswyr, tiwtoriaid a chyfeillion, sefydlodd Ymddiriedolaeth er mwyn prynu pentref Nant Gwrtheyrn.

Erbyn hyn gwariwyd £5m yn ailwampio’r pentref Fictorianaidd anghysbell ar Benrhyn Llŷn, ac mae yno Ganolfan Ymwelwyr a Chaffi, canolfan gynadledda, ystafell ddigwyddiadau a llety safon 4*. Cynhaliwyd y cyrsiau cyntaf i ddysgwyr Cymraeg yn 1982, a hyd yn hyn mae rhyw 25,000 o bobl wedi cael y cyfle i ymdrwytho yn yr amgylchedd unigryw y mae’r Nant yn ei gynnig.

Yn ei anerchiad bydd Carl Clowes yn rhannu ei brofiad o rwydweithio, “Nant Gwrtheyrn - from vision to reality; networking at a national level to empower Wales and her language".

Yn y digwyddiad bydd busnesau o’r Gorllewin yn rhannu eu profiadau hwythau o rwydweithio a dysgu. Bydd perchnogion busnesau lleol o Geredigion, Sir Benfro a Sir Gâr, sydd yn aelodau o’r rhwydwaith, yn disgrifio sut y maent wedi dysgu ac elwa ar rwydweithio â busnesau eraill o Gymru ac Iwerddon sy’n rhan o’r prosiect.

Bydd hefyd arddangosfa o’r gwasanaethau sydd ar gynnig gan Asiantaethau Cymorth Busnes Cymru, gan gynnwys Ffederasiwn Busnesau Bach; Cyllid Cymru; Chwarae Teg; Cymorth Hyblyg i Fusnesau; Gwasanaethau Prifysgolion Aberystwyth a Bangor i Fusnesau, a Datblygu Busnesau Ceredigion.

Trefnir y digwyddiad gan Rwydweithiau Dysgu Cynaliadwy Iwerddon a Chymru (SLNIW), sef prosiect cyffroes ac arloesol a ariennir drwy INTERREG 4A a gynhelir gan Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth, mewn partneriaeth â CEDRE (Canolfan Datblygu Mentrau a’r Economi Ranbarthol) yn Sefydliad Technoleg Waterford.

Mae’r prosiect unigryw hwn wedi creu a datblygu rhwydweithiau dysgu i fusnesau yma yn y Gorllewin ac yn Ne-ddwyrain Iwerddon, gyda’r prif nod o wneud busnesau bach a chanolig eu maint, a microfentrau yn y rhanbarthau hyn yn fwy cystadleuol, creadigol ac arloesol.  

Mynediad am ddim, ac mae croeso i bawb; cynhelir y  digwyddiad yng Nghanolfan Gynadledda Medrus ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 31 Mawrth, o 12.30 tan 5 y prynhawn. Os hoffech gadw lle i chi, cysylltwch â Gwern Hywel gwh5@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 622506.