Cyrraedd y brig

Yn gosod yr Ywen y mae (Chwith i’r Dde), Paul Evans o’r cwmni adeiladu Willmott Dixon, Ryan Dixon o’r penseiri Pascal and Watson, yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, a Jamie Lannen o’r cwmni rheoli prosiect Davis Langdon.

Yn gosod yr Ywen y mae (Chwith i’r Dde), Paul Evans o’r cwmni adeiladu Willmott Dixon, Ryan Dixon o’r penseiri Pascal and Watson, yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, a Jamie Lannen o’r cwmni rheoli prosiect Davis Langdon.

22 Mawrth 2011

Mae’r gwaith adeiladu ar adeilad arobryn newydd Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd carreg filltir bwysig.

Ddydd Llun 21ain Mawrth, cynhaliodd uwch swyddogion y Brifysgol, IBERS, y penseiri Pascal Watson, y cwmni adeiladu Willmott Dixon a’r cwmni rheoli prosiect Davis Langdon, seremoni i osod brigyn Ywen ar yr adeilad i nodi cwblhau’r strwythur.

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS: “Mae hwn yn nodi cam pwysig iawn wrth i IBERS fuddsoddi yn y dyfodol. Bydd y datblygiadau yma yn galluogi IBERS, sefydliad sydd wedi ennill nifer o wobrwyau am ei waith, i barhau i ddenu staff o’r radd flaenaf i ddysgu gwyddonwyr y dyfodol mewn awyrgylch heb ei hail”.

Bydd yr adeilad newydd yn gartref i Labordy Canolfan Gwybodeg a Bioleg Gyfrifiannol ac yn cynnwys ystafelloedd seminar, swyddfeydd a chaffi ar gyfer hyd at 60 o bobl a bydd yn barod ar gyfer Tachwedd 2011.

Mae’r datblygiad yn rhan o fuddsoddiad £25m mewn adnoddau ymchwil a dysgu newydd a fydd yn galluogi IBERS i ymchwilio ymhellach a dysgu am rhai o’r heriau byd eang sydd yn wynebu cymdeithas heddiw – diogelu cyflenwadau bwyd a dŵr, y defnydd o ddŵr ac addasu i newid hinsawdd.

Darperir cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnegol a Biolegol (BBSRC).

Gwobr adeiladu werdd

Dyfarnwyd Gwobr BREEAM i’r adeilad am y marc uchaf yn y sector Addysg Uwch yn y cyfnod dylunio, sef 75.27%, a chafodd ddyfarniad “Rhagorol”.

BREEAM (BRE Environmental Assessment Method) yw’r dull asesu amgylcheddol ehangaf ei ddefnydd ar gyfer adeiladau ac mae’r mesuriad yn ddisgrifiad o berfformiad amgylcheddol adeilad.

Mae’r adeilad wedi ei ddylunio er mwyn gwneud yn fawr o olau haul ac awyru naturiol ac mae’n cael ei wresogi gan sustem 4000m2 tynnu gwres o’r ddaear, sydd yn cael ei gosod o dan gae Pantycelyn ar hyn o bryd.

Ymysg nodweddion arbed ynni cynaliadwy eraill yr adeilad y mae insiwleiddio o wlân defaid, to sydd wedi ei orchuddio â phlanhigion a sustem gynaeafu dŵr glaw a fydd yn darparu holl anghenion dŵr y tai bach.