Perfformiad cerddorfaol

Viv Mclean

Viv Mclean

01 Ebrill 2011

Mae’r Philomusica yn croesawu un o’i hoff unawdwyr piano yn ôl am berfformiad o un o’r concerti mwyaf adnabyddus.

Bydd Viv McLean yn ymuno gyda cherddorfa symffoni Aberystwyth i berfformio Concerto Gyntaf gwych i’r Piano gan Tchaikovsky yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Sadwrn yr 2il o Ebrill.

Bydd naws Rwsiaidd pendant i’r rhaglen gan fod dwy o Ddawnsfeydd Symffonig Rachmaninoff yn cael eu perfformio yn ogystal.

Byddant hefyd yn perfformio’r darn ysgafn Festival Overture gan Ian Parrott. Dathlodd y cyn Athro Cerdd Gregynog ei ben-blwydd yn 95 yn ystod mis Mawrth a dyma gyfarchiad pen-blwydd y Philomusica i un o gyfansoddwyr mwyaf nodedig Prydain o’i genhedlaeth.

Agorir y cyngerdd gyda Cuban Overture gan Gershwin gyda’i felodïau cyfoethog a rhythmau America-Ladin.

Cynhelir y cyngerdd yng Nghanolfan y Celfyddydau ar nos Sadwrn 2ail Ebrill am 8 o’r gloch. Yr arweinydd yw David Russell Hulme, Cyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Aberystwyth. Tocynnau ar gael o’r Swyddfa Docynnau: 01970 623232. Prisoedd yn dechrau am £3.50.

AU8311