Neuaddau preswyl newydd

Campws Penglais

Campws Penglais

10 Mai 2011

Cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth fod chwe chwmni wedi eu dewis i fod yn rhan o’r cymal trafodaethau cystadleuol ar y cyd ar gyfer datblygu neuaddau preswyl newydd a fydd yn darparu llety hunan arlwyo modern ar gyfer 1000 o fyfyrwyr.

Y chwe chwmni yw Sir Robert McAlpine Limited, Miller Construction Limited, Balfour Beatty Student Accommodation, Kier Northern Limited, City Heart ac Evans Management Limited.

Hwn yw’r cam diweddaraf mewn proses a ddechreuodd ddechrau mis Mawrth pan gyhoeddodd y Brifysgol hysbysiad cytundeb yn y cynfodolyn Official Journal of the European Union, yn gwahodd datblygwyr i fynegi eu diddordeb yn y cynllun.

Mae’r Brifysgol yn chwilio am bartneriaid ac atebion creadigol i ateb y galw am lety o’r safon uchaf ar gyfer myfyrwyr y dyfodol.

Mae’r datblygiad posibl yn cynrychioli cynnydd o 500 gwely ar yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, yn ogystal â llety i gymryd lle darpariaeth bresennol, a bydd yn gyfle i adeiladu ymhellach ar y profiad myfyrwyr unigryw a phoblogaidd y mae Aberystwyth yn ei gynnig.

Yn ddibynnol ar gynllunio, bydd y neuaddau newydd yn cael eu hadeiladu ar dir fferm Penglais, tu cefn i’r pentref myfyrwyr, Pentref Jane Morgan.

Does dim disgwyl i’r gwaith adeiladu ar y neuaddau newydd ddechrau tan haf 2012 ar y cynharaf gyda’r myfyrwyr cyntaf yn ymgartrefu yno ym Medi 2013. Mae disgwyl i’r gost adeiladu fod rhwng £40m a £45m.

Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae Aberystwyth yn cynnig un o’r profiadau myfyrwyr gorau yn y Deyrnas Gyfunol. Mae’r datblygiad yn cynrychioli’r elfen strategol fwyaf yng nghynllun strategol y Brifysgol ac yn tanlinellu ei hymrwymiad i wella safon llety myfyrwyr gyda’r pwyslais ar adnoddau hunan arlwyo en-suite.”

“Wrth i’r broses fynd rhagddi bydd y Brifysgol yn gweithio yn agos gyda’r gymuned leol, cynllunwyr a chynrychiolwyr myfyrwyr er mwyn sicrhau fod y neuaddau newydd yn cynnig y profiad preswyl cymdeithasol a thechnolegol y bydd cenedlaethau o fyfyrwyr Aberystwyth yn ei ddeisyfu.”