Rhwydwaith uwch gyfrifiaduro

David Craddock

David Craddock

13 Mai 2011

Penodwyd David Craddock, Cyfarwyddwr Prosiectau Menter a Chydweithio Prifysgol Aberystwyth yn brif weithredwr HPC Cymru.

Mae David, sydd hefyd wedi bod yn brif weithredwr dros dro ar HPC Cymru, yn arwain cynllun £40 miliwn a fydd yn darparu rhwydwaith uwch gyfrifiaduro o safon byd, sefydliad ymchwil ac arloesi ac academi sgiliau

Yn ystod ei gyfnod fel prif weithredwr dros dro bu David yn cynorthwyo i sefydlu’r corff arweiniodd at sefydlu HPC Cymru a rheoli’r tîm o reolwyr o’r chwe phrifysgol ar draws Cymru sydd yn bartneriaid ar y cynllun (Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Morgannwg a phrifysgolion sydd yn rhan o Gynghrair Prifysgol Cymru). 

Bu hefyd yn rhan o’r tîm gwreiddiol a ddatblygodd y weledigaeth a’r cynllun busnes ar gyfer HPC Cymru a sicrhau £40m o gyllid oddi wrth Adran Fusnes, Arloesi a Sgiliau Llywodraeth San Steffan, y Cynulliad Cenedlaethol a Chronfeydd Cydgyfeirio’r UE.

Dywedodd David: “Mae HPC Cymru yn gynllun anhygoel o uchelgeisiol sydd yn mynd i gynnig gwasanaethau prosiect sydd yn canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr a hyfforddiant mewn uwch gyfrifiaduro ar gyfer ymchwilwyr mewn busnesau a phrifysgolion er mwyn cyflymu’r broses o greu cynnych a gwasanaethau newydd.” 

Mae’r cynllun ar drothwy cyfnod allweddol yn sgil cyhoeddi taw'r cwmni technoleg byd-eang enfawr Fujitsu fydd yn sefydlu partneriaeth gyda Phrifysgolion o Gymru i greu rhwydwaith uwch gyfrifiaduro a fydd yn ymestyn i bob cwr o Gymru ac yn cyrraedd pob rhan o’r byd.

Mae’r cytundeb werth £15 miliwn dros bedair blynedd i Fujitsu a fydd yn darparu’r rhwydwaith a’r gwasanaethau law yn llaw gyda’r isgontractwyr Microsoft ac Intel.

Dydd Mercher 11 Mai by David a’r Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a chadeirydd y cynllun yn ystod y dyddiau cynnar, yn rhoi cyflwyniad ar HPC Cymru i aelodau o Dy’r Cyffredin, Ty’r Arglwyddi ac Is-Ganghellorion yn San Steffan.  

Un o’r canolfannau a fydd yn elwa fwyaf o wasanaethau HPC Cymru yw Uned Arsylwi’r Ddaear ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd yn cael ei harwain gan yr Athro Richard Lucas o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Mae Uned Arsylwi’r Ddaear yn gweithio’n agos iawn gyda’r cwmni o Aberystwyth Environment Systems Ltd sydd yn darparu gwasanaeth ymgynghorol a gwybodaeth amgylcheddol a daearyddol.

 Dywedodd yr Athro Lucas: “Mae nifer o’r setiau data yn ein hymchwil yn fawr iawn. Mae’r data o synwyryddion optegol a radar o’r gofod yr ydym yn ei ddefnyddio yn cynnwys gwledydd cyfan (e.e. Awstralia a Chile) ac mae’r gwaith o’i gasglu yn parhau. Mae’r setiau data cyfres amser yma yn cynnig mewnwelediad unigryw i gyflwr hanesyddol a phresennol tirweddau ac yn  ein galluogi i ddeall, adeiladu modelau a rhagweld newidiadau all ddigwydd yn y dyfodol. Bydd HPC yn ein galluogi i ddefnyddio’r data sydd eisoes ar gael a’r hyn sydd newydd ei gasglu ac yn ein gwneud yn fwy hyderus o safbwynt ymwneud â phrosiectau mwy o faint a fydd o fudd i ystod eang o ddefnyddwyr.”

AU10611