Diwrnod Beicio i’r Gwaith

Beiciwr o Prifysgol Aberystwyth

Beiciwr o Prifysgol Aberystwyth

18 Mai 2011

‘Diwrnod Beicio i’r Gwaith’ – Cyfle i leihau’ch ôl troed carbon drwy ymuno â’n cynllun beicio i’r gwaith.

 8.00-9.00- Brecwast Beicio i’r Gwaith

Mae’r staff a’r myfyrwyr sy’n beicio i’r campws yn cael brecwast am ddim yn:  Gogerddan- Penglais (TaMed Da) - Llanbadarn (Adeilad Stapledon).

15.00-17.00- Sesiwn Gymorth Beiciau

Ar gampws Penglais, bydd yr arddangosfa yn cynnwys:

gweithdy am ddim i gael gwirio cyflwr eich beic (Summit Cycles/ Continental Tyres) ; cyngor ar eich diogelwch eich hun ac ar ddiogelu’ch beic.


16.00- Taith feicio o Lanbadarn Fawr i Benglais i fynd i’r Sesiwn Gymorth. Bydd grŵp o feicwyr yn beicio gyda’i gilydd o gampws Llanbadarn i gampws Penglais. Dan arweinyddiaeth stiward penodedig.


16.00- Taith feicio o Ogerddan i Benglais i fynd i’r Sesiwn Gymorth. Bydd grŵp o feicwyr yn beicio gyda’i gilydd o Gampws Gogerddan i gampws Penglais. Dan arweinyddiaeth stiward penodedig.