Cynllun Gosod Ystafell

Ystafell myfyriwr

Ystafell myfyriwr

31 Mai 2011

Gan ddilyn trefniant sydd ar waith mewn nifer o brifysgolion ym Mhrydain, bydd Prifysgol Aberystwyth yn lansio Cynllun Gosod Ystafell ddydd Mercher 1 Mehefin 2011, i gynorthwyo myfyrwyr i ddod o hyd i lety yn y dref.

Mae’r cynllun yn annog staff y Brifysgol i fanteisio ar yr ystafelloedd sbâr yn eu cartrefi drwy eu cynnig i fyfyrwyr. I sicrhau bod yr ystafelloedd a gynigir yn bodloni gofynion myfyrwyr o ran y celfi a’r offer, mae’r Brifysgol yn cynnig benthyciad di-log i staff.

Er bod y cynllun Gosod Ystafell wedi cael ei gynnig i rai myfyrwyr ôl-raddedig a rhan amser / tymor byr yn y gorffennol, mae’r Brifysgol nawr yn ehangu’r cynllun i gynnwys myfyrwyr amser llawn.

Dywedodd Jim Wallace, Pennaeth y Gwasanaethau Llety a Chroeso: “Rydym yn ymwybodol bod y galw am lety yn y sector breifat yn fwy nag erioed eleni, o ganlyniad i boblogrwydd y Brifysgol. Ar yr un pryd, rydym yn ymwybodol bod gan nifer o aelodau o staff ystafelloedd yn eu cartrefi y gallent hwy, a’r myfyrwyr, fanteisio arnynt drwy’r cynllun. Mae prifysgolion megis Manceinion, CaerlÅ·r, Llundain Fetropolitan, Sussex, Dwyrain Anglia, ac eraill, yn cynnig cynlluniau tebyg sydd wedi bod yn fuddiol i’r myfyrwyr a’r teuluoedd fel ei gilydd.”

Mae cynlluniau Aros mewn Cartref a Gosod Ystafell yn boblogaidd mewn prifysgolion eraill ac maent yn cynnig profiad croesawgar a chartrefol i fyfyrwyr. Mae’r cynlluniau’n tueddi i fod yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr rhyngwladol sy’n cael budd o fyw gyda theulu lle gallant ddysgu mwy am yr arferion a’r diwylliant lleol. 

Gall teuluoedd hefyd fanteisio ar y cynllun, gan fod modd i gartrefi sy’n cymryd rhan yn y cynllun elwa ar incwm ychwanegol di-dreth o hyd at £4,250 y flwyddyn.

Dywedodd Ursula Byrne, aelod o staff Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes y Brifysgol: “Mae gennym fyfyrwyr yn byw yn ein cartref ni, ac mae’r profiad wedi bod yn ardderchog i’r myfyrwyr ac i ninnau’n bersonol. Rydym yn dysgu oddi wrth ein gilydd, ac rwy’n mawr obeithio ein bod, drwy’r trefniant hwn, wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hamser yn y brifysgol”.  

Bydd y Cynllun Gosod Ystafell ar gael i holl aelodau staff y Brifysgol. Dylai aelodau o staff sydd am gymryd rhan yn y cynllun gysylltu â’r Swyddfa Llety am fanylion pellach.