Llwyddiant ar Facebook

Llwyddiant ar Facebook

Llwyddiant ar Facebook

02 Mehefin 2011

Gyda’i gilydd, fe wnaeth 130 o Brifysgolion  blaenllaw’r  DU gymryd rhan yng nghystadleuaeth ‘University Face Off’ yn ddiweddar gyda miliynau o fyfyrwyr yn mynd ar Facebook i bleidlleisio, hoffi, rhoi sylwadau a tagio eu hoff Brifysgolion  yn y gystadleuaeth gyntaf o’i bath.

Dyw hi fawr o syndod, efallai, bod myfyrwyr presennol  a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn unedig yn eu brwdfrydedd, eu cefnogaeth a’u hoffter o’r Brifysgol ac wedi llwyddo i sicrhau buddugoliaeth ysgubol i Aber gyda 3420 o bwyntiau.  Cafwyd cystadlu brwd am yr ail safle rhwng y Brifysgol Agored (1933 pwynt) a Phrifysgol Keele (1929 pwynt), fu ar y blaen yn y gystadleuaeth am sawl wythnos, ond ddaeth yr un ohonynt yn agos at herio goruchafiaeth Aber yn y camau olaf.

Meddai llefarydd ar ran Aberystwyth, “ Mae’r Brifysgol yn hapus iawn ei bod wedi ennill, ac  yn hynod falch bod ein myfyrwyr wedi pleidleisio drosom .  Roedd y gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i lais y myfyriwr gael ei glywed. Mae Aberstwyth yn lle unigryw i astudio ynddo ac yn darparu’r profiad myfyriwr gorau mewn unrhyw birfysgol ym Mhrydain. Ry’n ni’n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf a’r ornest nesaf!”