The Creative Industries: opportunity or oxymoron?

Pat Loughrey

Pat Loughrey

03 Mehefin 2011

Bydd cyn Gyfarwyddwr BBC y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau, Pat Loughrey, yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Iau 9fed Mehefin.

Yn y ddarlith, “The Creative Industries: opportunity or oxymoron?”, bydd yn trafod sut a phaham y gellir ystyried gwaith ‘creadigol’ ar raddfa fechan yn ‘ddiwydiant’ a phwy sydd yn elwa?

Bydd yn trafod y tensiynau yn yr ocsimoron hwn, gan edrych ar agweddau o hanes creadigedd, sut y gellir ystyried creadigedd yn ddiwydiant, a beth sydd yn cysylltu’r datblygiadau yma i rôl a gwerth celf a diwylliant o fewn cymdeithas. Bydd y ddarlith hefyd yn ystyried beth mae datblygiad y diwydiannau creadigol yn ei olygu i brifysgolion a’r hyn sydd yn cael ei greu, yn arbennig ar adeg pan fod ‘effaith’ wedi magu arwyddocâd ehangach. 

O’i yrfa hir yn y BBC bydd Pat hefyd yn disgrifio’r berthynas, a oedd yn aml yn llawn tensiwn ac amwysedd, rhwng yr academi a’r cyfryngau torfol.

Cynhelir y ddarlith yn yr Hen Neuadd, yr Hen Goleg a bydd yn dechrau am 7 yr hwyr.

Bu Pat yn Gyfarwyddwr BBC’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau o 2000 tan 2009, swydd oedd yn gyfrifol am wasanaethau a rhaglenni teledu, radio ac arlein y BBC yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a deuddeng rhanbarth yn Lloegr.

Yn ogystal treuliodd dair blynedd fel Pennaeth Project North a oedd yn cynnwys creu MediaCityUK, dinas newydd benodedig ar gyfer cynhyrchu ar gyfer y cyfryngau.

Yn wreiddiol o Swydd Donegal yn Iwerddon, bu’n astudio ym Mhrifysgol Ulster (BA Anrh Hanes Cyfoes), Prifysgol Queen’s Belfast (MA Hanes - Anthropoleg Wledig) a Phrifysgol Trent, Ontario (Ysgoloriaeth Ymchwil Ddoethuriaethaol).

Mae ei uchafbwyntiau golygyddol yn cynnws Doctor Who, Torchwood, God On Trial, Murphy’s Law, Tribe, Still Game, Facing The Truth ac Inside Out.

Cafodd ei benodi’n Warden Coleg Goldsmiths yn 2009.

AU13511