Cystadleuwyr Niwclear

Yr Athro Nicholas Wheeler

Yr Athro Nicholas Wheeler

08 Mehefin 2011

Ar 14-15 Mehefin 2011 bydd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn cynnal symposiwm deuddydd yn trafod y posibiliadau ar gyfer cydweithio a meithrin ymddiriedaeth rhwng pwerau sydd ag arfau niwclear a gwladwriaethau sydd â photensial i gael arfau niwclear.

‘Cystadleuwyr Niwclear a Phosibiliadau Cydweithio ac Adeiladu Ymddiriedaeth’ yw ail symposiwm blynyddol y prosiect ‘Sialensiau Adeiladu Ymddiriedaeth mewn Bydoedd Niwclear’ ac mae’n cael ei gydlynu gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies.

Mae’r achlysur yn rhan o’r prosiect ymchwil tair blynedd ‘Sialensiau Adeiladu Ymddiriedaeth mewn Bydoedd Niwclear’. Arweinydd y prosiect yw’r Athro Nicholas Wheeler o Brifysgol Aberystwyth ac mae’n derbyn cymorth rhaglen RCUK ‘Global Uncertainties: Security for All in a Changing World’. Amcan cyffredinol y prosiect yw archwilio’r cyfraniad y gall ymchwil amlddisgyblaethol ar ymddiriedaeth ei wneud i agor opsiynau polisi newydd ar gyfer hyrwyddo cydweithio a diogelwch yn y maes niwclear.

Dywedodd yr Athro Nicholas Wheeler, Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae symposiwm eleni yn canolbwyntio ar y posibiliadau ar gyfer cydweithio a meithrin ymddiriedaeth rhwng pwerau sydd ag arfau niwclear yn ogystal â gwladwriaethau sydd â photensial i gael arfau niwclear. Bydd nifer o’r cyflwyniadau’n canolbwyntio ar y cysylltiadau pŵer pwysig rhwng yr Unol Daleithiau, Tsieina a Rwsia; y ddynameg niwclear ranbarthol yn Ne Asia a’r Dwyrain Canol; a dimensiynau cysyniadol astudio ymddiriedaeth ar lefel ryngwladol.

“Daw’r symposiwm ag arbenigwyr academaidd ynghyd o bob rhan o’r DU a phrifysgolion Ewropeaidd yn ogystal ag ymarferwyr o’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, a bydd yn cynnig fforwm i ymchwilwyr yn gynnar yn eu gyrfa, academyddion profiadol ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes ymddiriedaeth a gwleidyddiaeth niwclear.”

Bydd y cyfarfod yn darparu fforwm ar gyfer rhyngweithio ymysg y tri grŵp gyda golwg penodol ar hwyluso cysylltiadau proffesiynol i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Bydd y gweithdy’n cyfrannu ymhellach at wella cydweithio rhwng ymchwilwyr ar draws amrywiol ddisgyblaethau gwyddorau cymdeithasol megis cysylltiadau rhyngwladol, seicoleg a chymdeithaseg.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ar ‘Sialensiau Adeiladu Ymddiriedaeth mewn Bydoedd Niwclear’ ewch i www.aber.ac.uk/interpol/en/research/DDMI/research_trust_building.html

AU13211