Cefnogaeth gan enwogion

Rhodri Meilir

Rhodri Meilir

15 Mehefin 2011

Yng nghanol Wythnos y Prifysgolion mae dau enw cyfarwydd wedi dangos eu cefnogaeth i’r digwyddiad drwy hel atgofion am eu cyfnod hwy ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Alex Jones, cyn-fyfyriwr Aberystwyth a chyflwynydd rhaglen The One Show y BBC: “Mae gen i atgofion melys o fod ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wedi ei lleoli o fewn ardal ddaearyddol reit fach, mae'n anochel bod y ffiniau rhwng y dref a'r brifysgol yn aneglur a dwi'n credu mai dyma sy'n ei gwneud mor arbennig. Heblaw am y manteision academaidd amlwg sydd i'w cael o fynychu sefydliad o'r fath, mae bywyd prifysgol yn amhrisiadwy wrth eich helpu i fod yn fwy annibynol ac i ddeall pwy ydych chi fel person. Yn sicr, rhoddodd sylfaen dda i mi ar gyfer fy ngyrfa a'm bywyd yn gyffredinol”.

Graddiodd Alex Jones o Adran Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol yn 1998, ac yn ogystal â The One Show, mae hi wedi cyd-gyflwyno Let’s Dance for Comic Relief, roedd yn rhan o dîm The Royal Wedding 2011 y BBC a cyflwynodd bwyntiau’r DU yn yr Eurovision Song Contest 2011.

Aelod arall o alumni’r brifysgol yw Rhodri Meilir sy’n adnabyddus am ei ran yng nghyfres My Family y BBC, yn ogystal â Doctor Who, Hogfather Terry Pratchett, Patagonia, Y Pris a Caerdydd. Dywedodd: “Roedd bywyd prifysgol y tu hwnt i’m disgwyliadau a gosododd sylfaen gref ar gyfer fy ngyrfa.  Mae Aberystwyth yn lle gwych ar gyfer astudio ac mae gen i nifer o atgofion anhygoel. Yn ystod dair blynedd y treuliais yno, caefais lawer mwy na gradd gan gynnwys amryw o sgiliau bywyd, cyfeillgarwch heb ei ail a sicrhaodd mod i nawr yn rhan o rwydwaith ryngwladol alums Aberystwyth!”

Fe Alex, astudiodd Rhodri yn yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu.

Mae alumni enwog Aberystwyth hefyd yn cynnwys:

 

  • HRH Prince Charles, astudiodd Cymraeg a Hanes Cymru yn 1969
  • HRH Muhriz Tuanku Munawir, llywodraethwr Negeri Sembilan, talaith yn Malaysia, graddiodd yn y Gyfraith yn 1970
  • Melanie Walters, actores (Gwen yn Gavin and Stacey) graddiodd mewn Drama yn 1983
  • Sharon Maguire, cyfarwyddwr, Bridget Jones Diary, graddiodd mewn Saesneg a Drama yn 1982
  • Belinda Earl, Prif Weithredwr, Jaeger, graddiodd mewn Economeg yn 1983
  • Tom Singh, Sylfaenydd, New Look, graddiodd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Daearyddiaeth yn 1970
  • Catherine Bishop, Rhwyfwraig, medal arian yng Ngemau Olympaidd 2004, MPhil Gwleidyddiaeth Ryngwladol 2005
  • Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, graddiodd yn y Gyfraith yn 1988

AU14510