Straeon digidol

ds6

ds6

16 Mehefin 2011

Ddydd Gwener 17 Mehefin, rhwng 10am a 4.30pm y prynhawn bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cynnal y chweched Ŵyl Adrodd Straeon Digidol sydd yn addo ysbrydoli, annog a dangos y posibiliadau cyffrous sy'n bodoli ym maes adrodd straeon digidol.

Os 'rydych yn gweithio ym maes addysg, y gymuned neu fel artist, dyma'ch cyfle i rannu profiadau, archwilio syniadau creadigol newydd, gweld y datblygiadau technolegol diweddaraf, edrych ar enghreifftiau o ymarfer gorau yn y DU a ledled y byd a dathlu arwyddocâd cynyddol adrodd straeon digidol.

Mae DS6 yn cyflwyno diwrnod gorlawn o siaradwyr ysbrydoledig a sesiynau ymarferol ar bob pwnc y gallwch feddwl amdano o fewn maes adrodd straeon digidol a rhai nad oeddech wedi eu hystyried!  Hyn i gyd yn ogystal ag amrediad helaeth o stondinau masnach gan y prif noddwyr, cynlluniau datblygiad cymunedol a llawer mwy - a chyfle unigryw i gyfnewid barn gyda'r gymuned adrodd straeon digidol yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

 

Prif Siaradwyr:

 

Storyfield, Julie Gade

Sefydlydd a Chyfarwyddwraig Reoli Story Field - asiantaeth o Gopenhagen sy'n cyflwyno straeon a phrofiadau pobl trwy fideo, i'w defnyddio ar gyfer dyfeisgarwch wrth drefnu, datblygu a chyfathrebu ar-lein.  Mae'r cleientiaid yn cynnwys cyrff a chwmnïau cyhoeddus a phreifat. Mae gan Julie radd ôl-raddedig o Brifysgol Copenhagen ac mae wedi gweithio fel Ymgynghorwraig gyda'r asiantaeth ddigidol LBi yn Copenhagen. 

"Yn fy nghyflwyniad byddaf yn siarad am sut y gellir defnyddio adrodd straeon digidol mewn astudiaethau i wella dylunio cynnyrch a gwasanaethau.  Byddaf yn cyflwyno dwy achos lle ‘rydym wedi defnyddio adrodd straeon digidol mewn astudiaethau defnyddwyr.  Byddaf yn siarad am sut yr ydym yn defnyddio offer cyfryngol Cymdeithasol i gasglu a rhannu delweddau, fideos a phrofiadau, ac yn olaf byddaf yn sôn am agweddau methodolegol ac moesol ein ffordd o weithredu."  

www.storyfield.dk

 

Patient Voices, Pip Hardy

Ynghyd â Tony Sumner, sefydlodd Pip y Rhaglen Patient Voices yn 2003 gyda'r bwriad o ddod â mwy o ddyngarwch i faes gofal iechyd trwy greu a rhannu straeon digidol am fywyd a marwolaeth, iechyd a salwch, anobaith a dathlu, gobaith a thrawsnewidiad. 

Bu tua 500 o bobl yn cymryd rhan mewn gweithdai i greu eu straeon digidol ac yn sgil eu dosbarthu am ddim trwy wefan Patient Voices maent wedi cael eu defnyddio mewn addysg gofal iechyd mewn pob rhan o'r byd lle siaredir Saesneg a thu hwnt. Ar wahân i drefnu gweithdai ac annerch cynulleidfaoedd ledled y byd am waith Patient Voices, mae Pip wedi cwblhau gradd MSc yn archwilio sut mae'r straeon yn cael eu defnyddio ac erbyn hyn mae wedi dechrau ar PhD i ystyried beth sy'n gwneud y straeon hyn mor boblogaidd.

 "Gall adrodd straeon digidol newid bywydau - nid yn unig bywydau'r sawl sy'n creu'r straeon, ond hefyd bywydau'r bobl sy'n eu gwylio.  Mae'r cyflwyniad hwn yn edrych ar adrodd straeon digidol ym maes gofal iechyd ac yn ystyried rhai o'r ffyrdd y defnyddiwyd straeon Patient Voices mewn addysg gofal iechyd i hybu myfyrdod, i annog trafodaeth a dadl ac i hyrwyddo rhagor o empathi a chydymdeimlad."

http://www.patientvoices.org.uk/

 

 Adrodd Straeon Digidol, Asia, Angeline Koh

"Digwyddais ddod ar draws adrodd straeon digidol yn 2007, a newidiodd fy mywyd. Y cyfan ‘roeddwn am wneud oedd adrodd fy straeon a helpu eraill i adrodd eu straeon hwythau.  Ni wyddwn ar y pryd y byddai'r profiad yn achosi i mi ymadael â'm bywyd cyfforddus ar ôl 22 mlynedd er mwyn arloesi adrodd straeon digidol yn Singapore ac Asia.  Mae gan adrodd straeon digidol y potensial i adeiladu pontydd o gyfeillgarwch a dealltwriaeth yn ein cenedl amlddiwylliannol."

 Wedi'i chofrestru yn 2010, mae DIGITAL STORYTELLING ASIA yn fenter gymdeithasol a sefydlwyd yn Singapore o dan berchnogaeth Angeline Koh. Mae'r mudiad wedi trefnu gweithdai a chyflwyno anerchiadau yn Singapore, y Philipinau ac UDA. Mae ei waith wedi denu sylw'r Weinyddiaeth Addysg, ysgolion, mudiadau dielw ac unigolion. Dangoswyd straeon DSA ar OKTO, un o sianeli teledu cenedlaethol Singapore. Bu tri o weithwyr newydd yn ymuno â'r tîm yn ddiweddar. Penodwyd Angelina yn gyd-gyfarwyddwraig Ail Gynhadledd Adrodd Straeon Digidol Asia  2010 gan Gyngor Datblygu Llyfrau Cenedlaethol Singapore. Mae Angelina hefyd yn gyd-gyfarwyddwraig y Cylch Adrodd Straeon Digidol  (DiSC), grŵp cynnal ar gyfer adroddwyr straeon digidol  a sefydlwyd gan NBDCS a DSA er mwyn hybu'r gwaith yn y maes ac i alluogi pobl gyffredin i adrodd eu straeon.

Gwyliwch yma!

Hefyd mae yna sesiynau gyda Hyperlocal Girls Joni Ayn a Hannah Waldram, Gwaith Stori a mwy!

Am fwy o wybodaeth gweler: www.aber.ac.uk/artscentre / 01970 62 32 32.