Celf perfformio

Cerdyn post

Cerdyn post

21 Mehefin 2011

Lansiwyd gwefan newydd sydd yn cynnwys cronfa ddata o ddigwyddiadau celf yng Nghymru rhwng 1965 a 1979 gan ymchwilwyr o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm and Theledu Prifysgol Aberystwyth.

Ar y wefan www.performance-wales.org (“Deugain mlynedd yn ôl i heddiw…” Lleoli Hanes Cynnar Celf Perfformio yng Nghymru 1965-1979) ceir digwyddiadau megis ‘Happenings’ yng Nghaerdydd yn 1965, ‘Fluxus’ yn Aberystwyth yn 1968, ‘Destruction in Art’ yn Abertawe yn 1969, cerddoriaeth fyrfyfyr yn Sir Fôn yn 1970 a chelf perfformio yn yr Eisteddfod yn Wrecsam yn 1977.

Bu’r tîm yn astudio rhai o’r datblygiadau mawr mewn arbrofion artistig rhyngwladol yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif wrth iddynt gyffwrdd â chyd-destun diwylliannol bywiog ond cymharol ymylol: sef Cymru rhwng 1965 a 1979.

Treuliodd Dr Heike Roms, uwch ddarlithydd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, a’r cynorthwyydd ymchwil Dr Rebecca Edwards,  ddwy flynedd yn edrych ar ystod eang o ffynonellau archifol.

Dywedodd Dr Roms: “Buom yn astudio eitemau o nifer o ffynonellau, o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol i Archif y Tate yn Llundain a nifer o gasgliadau preifat yn ogystal â chyfweld rhai o brif gymeriadau’r hanes hwn.”

Golyga’r gwaith fod ffrwyth yr ymchwil ar gael i ymchwilwyr eraill ar ffurf cronfa ddata ar lein chwiliadwy am ddigwyddiadau celf perfformio yng Nghymru rhwng 1965 a 1979 sydd ar hyn o bryd yn cynnwys bron i 700 o ddigwyddiadau gafodd eu creu dros gyfnod o bymtheg mlynedd.

Mae hefyd yn rhestri ble mae modd cael hyd i ddogfennau am y digwyddiadau yma. Yn ogystal cynhyrchodd yr ymchwil mwy na 40 o recordiadau a thrawsgrifiadau o hanes llafar a fydd yn cael eu cadw mewn archifau allweddol.

Ychwanegodd Dr Roms: “Y gobaith yw y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio  er mwyn deall yn well sut y datblygodd celf perfformio, fel symudiad artistig â chyrhaeddiad rhyngwladol, â’i rwydweithiau a sefydliadau cysylltiol o fewn cyd-destun lleol penodol, yng Nghymru, Prydain a thu hwnt.”

Cafodd y wefan a’r gronfa ddata ar lein www.performance-wales.org ei lansio yn swyddogol yng Nghynhadledd Ryngwladol Cyfrwng gafodd ei chynnal ym Mhrifysgol Morgannwg ar ddydd Gwener 17eg Mehefin 2011.

Derbyniodd ‘ “Deugain mlynedd yn ôl i heddiw…” Lleoli Hanes Cynnar Celf Perfformio yng Nghymru 1965-1979’ grant ymchwil sylweddol o £165,779 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) (2009-2011).

AU14911