Llwyddiant Celtaidd i Fyfyrwraig o Wlad Pwyl

Anna Rolewska

Anna Rolewska

14 Gorffennaf 2011

Mae Anna Rolewska, myfyrwraig  o Wlad Pwyl, yn graddio heddiw gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Celtaidd ac yn rhannu gwobr adrannol, Gwobr y Fonesig Amy Parry Williams ar y cyd âMiriam James a enillodd radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg.

 

Doedd  Anna ddim wedi ystyried astudio ieithoedd Celtaidd  yn y Brifysgol yn y lle cyntaf. Er bod ganddi ddiddordeb mewn llenyddiaeth Geltaidd a’i bod hi hefyd wedi dysgu Gwyddeleg iddi ei hun yn ei hamser rhydd, roedd hi wedi tybio y byddai’r broses o ennill lle mewn prifysgol ym Mhrydain yn un llawer rhy anodd iddi ar y pryd.

 

Ond, a hithau ar ganol ei blwyddyn gyntaf yn dilyn cwrs astudiaethau Saesneg yn Poznan, Gwlad Pwyl, fe glywodd bod cwrs Astudiaethau Celtaidd ardderchog i’w gael ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fe benderfynodd fentro ei lwc.

 

“Llwyddais i argyhoeddi  fy ffrind pennaf i roi’r gorau i’w chwrs is-raddedig hithau hefyd yn y gobaith y byddai cwrs gwell iddi yn Aberystwyth; cawsom lawer o  gefnogaeth a chymorth gan staff y Brifysgol, a chan bobl o Wlad Pwyl oedd yn gyfarwydd ag Aberystwyth.”

 

Gwyddeleg modern oedd ei phrif ddiddordeb i ddechrau ond buan y sylweddolodd y byddai llawer o bwyslais ar y Gymraeg ym Mhrifysgol  Aberystwyth yn ogystal . “Roedd hyn yn hollol ddealladwy wrth gwrs, a ninnau yng nghanol Cymru,” meddai Anna.

 

Erbyn dechrau ei hail flwyddyn  roedd hi’n astudio ochr yn ochr â myfyrwyr iaith gyntaf; mae’n cyfaddef ei bod wedi ei gollwng i’r pen dwfn yn hyn o beth, “ond efallai mai dyma’r ffordd orau o annog gwaith caled!” ychwanegodd.

 

Mae’n bendant ei bod am aros yn Aberystwyth am y tro, a’i chariad at y Gymraeg - ac yn arbennig tuag at un Cymro Cymraeg -  sy’n gyfrifol am y penderfyniad hwnnw!