Urddo Yr Athro Christianne Glossop yn Gymrawd

Yr Athro Christianne Glossop

Yr Athro Christianne Glossop

15 Gorffennaf 2011

Heddiw, ddydd Gwener 15 Gorffennaf 2011, cyflwynir Yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol i Lywodraeth Cymru, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Cafodd ei phenodi i rôl Prif Swyddog Milfeddygol i Lywodraeth Cymru yn 2005 a hi sy’n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu'r strategaeth a pholisi iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.

Yn 2007 penodwyd yr Athro Glossop yn Athro er Anrhydedd yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol, Llundain.  Ers ei hapwyntiad fel Prif Swyddog Milfeddygol i Lywodaeth Cymru, mae’r ffocws wedi symud tuag at ddysgu iechyd anifeiliaid a datblygiad polisi lles.

Mae wedi datblygu a gweithredu nifer o bolisiau sydd wedi gosod lles anifeiliaid yng Nghymru ar y blaen i’r sefyllfa mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys cyhoeddi canllawiau lles i gwn, cathod a chwningod, y gwaharddiad yn 2010 ar y defnydd o goleri sioc ar gwn a chathod, a gwaith sydd yn parhau ar adolygu’r ddeddfwriaeth ar fridio cwn bach.   

Cafodd y gefnogaeth a roddodd i’r sector da byw yn ystod y blynyddoedd diweddar gydnabyddiaeth arbennig.  Ei gweledigaeth yw “gweld gwaredu'r Diciâu o Gymru unwaith ac am byth” ac mae wedi bod yn gadarn wrth yrru’r strategaeth i waredu’r haint mewn gwartheg yn ei blaen. Am hyn dyfarnwyd iddi Wobr y Dywysoges Frenhinol gan Gymdeithas Frenhinol Ffermwyr Llaeth Prydain yn 2009, ac yn yr un flwyddyn roedd yn gyd-enillwyr gwobr Farming Champion y Farmers Weekly gydag Elin Jones, y cyn Weinidog Materion Gwledig.   

Bydd yr Athro Christianne Glossop yn cael ei chyflwyno gan yr Athro Will Haresign, Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, am 11.00 o’r gloch fore Gwener 15 Gorffennaf.

Mae’n un o saith Cymrawd fydd yn cael eu hurddo gan Brifysgol Aberystwyth yn ystod Seremonïau Graddio 2011 sydd yn cael eu cynnal ar y 12fed, 13eg, 14eg a’r 15fed o Orffennaf.