Cyflwyno Dr Clive James yn Gymrawd

Dr Clive James.

Dr Clive James.

15 Gorffennaf 2011

Cafodd Dr Clive James, gwyddonydd amaethyddol a sefydlydd yr International Service for the Acquisition of Agri-biotech Applications (ISAAA), ei urddo’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth heddiw, dydd Gwener 15 Gorffennaf 2011.

Ganwyd Clive James yn Llansaint ger Cydweli ac enillodd radd gyntaf mewn Botaneg Amaethyddol o Brifysgol Aberystwyth yn 1961 cyn mynd i Gaergrawnt yn 1964.

Sefydlodd ISAAA yn 1990 er mwyn hwyluso’r gwaith o rannu gwybodaeth, casglu a thorsglwyddo cymwysiadau biotechnoleg cnydau o wledydd diwydiannol er lles ffermwyr o’r byd sydd yn datblygu ac sydd yn brin o adnoddau. Sefydliad elusenol nid er elw yw ISAAA a’r amcan yw lleddfu newyn a thlodi yn y byd sydd yn datblygu.

Allfudodd i Ganada ym 1968 lle bu’n gweithio ar gyfer Federal Departments of Canada Agriculture a’r Canadian International Development Agency. Cyn sefydlu ISAAA, ef oedd Is-Gyfarwyddwr Cyffredinol yr International Maize and Wheat Improvement Center yn Mecsico ble y cydweithiodd â Norman Ernest Borlaug, enillydd gwobr Nobel a noddwr sefydlol yr ISAAA.

Treuliodd y 25ain mlynedd diwethaf yn byw ac/neu yn gweithio mewn gwledydd datblygol a bu’n Gynghorydd Amaethyddol Uwch i’r Canadian Bilateral Aid Agency, Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig.

Cyflwynwyd Dr James gan yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad, Prifysgol Aberystwyth.

Anerchiad yr Athro Powell.

Barchus Llywydd :  braint a phleser o’r mwyaf yw cyflwyno Clive James yn gymrawd o Brifysgol Aberystwyth.

In 1990, Dr James founded ISAAA - International Service for the Acquisition of Agri-biotech Applications, a not-for-profit charitable organization, established to facilitate the sharing of knowledge and the acquisition and transfer of crop biotechnology applications from the industrial countries, for the benefit of resource-poor farmers in the developing world. The mission of ISAAA is to alleviate hunger and poverty in the developing countries.

Ganwyd Clive James yn Llansaint ger Cydweli – yr un pentref â’r seren rygbi Gerald Davies. Enillodd radd gyntaf mewn Botaneg Amaethyddol o Brifysgol Aberystwyth yn 1961 cyn mynd i Gaergrawnt yn 1964. Allfudodd i Ganada ym 1968 ac mae bellach yn byw ymhell o’i wreiddiau yn  Sir Gaerfyrddin.... ar Ynysoedd  Cayman!

An agricultural scientist, Clive James was born in Llansaint near Kidwelly – the same village as Gerald Davies the rugby star, and graduated from Aberystwyth University in 1961 with a first degree in Agricultural Botany, followed by a PhD from Cambridge University.

Mae ei yrfa ddisglair yn cynnwys cydweithio yn Mecsico â Norman Ernest Borlaug - agronomegydd Americanaidd, dyngarol, ac enillydd gwobr Nobel; noddwr sefydlol yr ISAAA ac un sydd yn cael ei gydnabod fel ‘tad y Chwyldro Glas".

Mae Clive wedi gweithio i’r FAO – Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig ac wedi ymgynghori ar gyfer asiantaethau datblygu rhyngwladol gan gynnwys Rhaglen Datblygu y Cenhedloedd Unedig  (UNDP), Banc y Byd, a llawer o sefydliadau dyngarol rhyngwladol, gan gynnwys Sefydliadau Rockefeller a Hitachi.

He emigrated to Canada in 1968, where he worked for Federal Departments of Canada Agriculture and the Canadian International Development Agency CIDA.  Prior to his association with ISAAA he was Deputy Director General at the International Maize and Wheat Improvement Center (CIMMYT) in Mexico, where he worked with the late Dr Norman Borlaug, the Nobel Peace Prize laureate, who was the founding patron of ISAAA. The last twenty-five years have been spent living and/or working in the developing countries of Asia, Latin America, and Africa and devoted to agricultural research & development issues, and crop biotechnology. He has served, as Senior Agricultural Adviser to the Canadian Bilateral Aid Agency (CIDA), the Food and Agricultural Organization (FAO) of the United Nations and has consulted for many international development agencies including United Nations Development Programme (UNDP), the World Bank, and many international philanthropic foundations, including the Rockefeller and Hitachi Foundations.
 
He has published internationally-recognized Annual Reviews on the Global Status of GM crops, and their contribution to global food, feed, fibre, and fuel security, since 1996 when GM crops were first commercialised.

Barchus Lywydd :  mae’n fraint ac anrhydedd gen i gyflwyno Dr.Clive James yn gymrawd o Brifysgol Aberystwyth.

Mr President, it is an honour and a privilege to present Dr. Clive James to be ordained as an Honorary Fellow of Aberystwyth University.