Gwledd Gerddorol

Sioe gerdd Chess

Sioe gerdd Chess

29 Gorffennaf 2011

Yr wythnos hon, mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cyflwyno dau ddigwyddiad cerddorol ysblennydd ar gyfer yr haf; MusicFest Aberystwyth a Chess The Musical.

23 – 30 Gorffennaf 2011

MusicFest Aberystwyth: cyfuniad o Ŵyl Gerdd ac Ysgol Haf. Mae’r Ysgol Haf yn unigryw gan ei bod yn cynnig cyfleoedd ac hyfforddiant disgybledig a strwythuredig ym maes cerddoriaeth siambr, yn ogystal a phrofiadau dysgu gwych trwy’r rhaglen o gyngherddau a gyflwynir gan y tiwtoriaid eu hunain. Trefnir cyrsiau gyda pedwarawd llinynnol, clarinet, sacsoffon, composition, brass, percussion a piano. Mae’r cyngherddau dyddiol, amser cinio a min nos, yn ogystal a’r perfformiadau gan y myfyrwyr yn y cyntedd a’r cyngherddau o safon uchel ar ddiwedd yr wythnos, yn ein hatgoffa sut mae gwrando ar gerddoriaeth fyw dda yn medru adnewyddu’r enaid a’r corff. Mae cynnwys y gynulleidfa, y myfyriwr a’r artist yn eu tro yn creu awyrgylch cymunedol unigryw yr Ŵyl – mae’n adfywiol, yn rhoi boddhad ac yn gwbl ysbrydoledig. Mae uchafbwyntiau y rhaglen o gyngherddau eleni yn cynnwys Cerddorfa Orion, Guy Johnston ar y soddgrwth, y pianydd Tom Poster, Pedwarawd Solstice a Sacconi, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a chyfarwyddwr artistig yr ŵyl, y clarinetydd David Campbell a llawer mwy www.abermusicfest.org/cy

21 Gorffennaf – 27 Awst 2011

Chess The Musical: mae'r tîm y tu ôl i gynhyrchiad gwych ‘Chicago' 2010 yn dychwelyd eto eleni i ymgymryd â'r sioe gyffrous hon. Gyda chast sylweddol o berfformwyr proffesiynol, band byw, a set a gwisgoedd ysblennydd, mae hwn yn profi i fod yn gynhyrchiad syfrdanol arall. Cyfunir sgôr ysblennydd gan y dalent gerddorol y tu ôl i ABBA, Bjorn Ulvaeus a Benny Andersson, gyda geiriau Tim Rice i ffurfio sioe gerdd sydd wedi ennill poblogrwydd a dilynwyr ledled y byd. Ymysg ei chaneuon mwyaf adnabyddus yw ‘I Know Him So Well', ‘One Night in Bangkok', ‘Anthem' a ‘Pity the Child'. Mae adolygiadau cynnar wedi bod yn frwdfrydig iawn gyda The Stage yn nodi: “Mae cynhyrchiad Anthony Williams yn drydanol, emosiynol ac yn anhygoel o weledol…Mae’r cast, y cyfarwyddwr a’r cerddorion yn cyflwyno cynhyrchiad rhagorol ac yn datblygu sioe gerdd dda i un sydd bron yn wych.’

Dywed Alan Hewson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth: “Boed yn law neu hindda, pa ffordd well o dreulio rhan o’ch gwyliau haf nag yn gwrando ar gerddoriaeth wych. Rydym yn hyderus ein bod wedi llunio rhaglen berffaith ar gyfer trigolion ac ymwelwyr Aberyswtwyth eleni. Mae rhywbeth yma i bawb – o gerddoriaeth roc Chess i ffefrynnau clasurol a pherfformiadau cyntaf bydeang Musicfest.”

Am ragor o wybodaeth neu i archebu tocynnau, ewch i www.aber.ac.uk/artscentre neu ffoniwch 01970 623232.