Is-Ganghellor newydd

Yr Athro April McMahon

Yr Athro April McMahon

29 Gorffennaf 2011

Mae Is-Ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon, yn dechrau ar ei swydd newydd heddiw, dydd Llun 1af Awst.

Mae’r Athro McMahon yn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth o Brifysgol Caeredin lle’r oedd yn Is-Brifathro Polisi Cynllunio, Adnoddau ac Ymchwil.

Yn frodor o Ororau’r Alban ac yn rhugl yn y Sgoteg, enillodd yr Athro McMahon radd MA ym maes Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg ac yna Doethuriaeth ym maes Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Caeredin.

Bu’n dysgu yn yr Adran Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt am 12 mlynedd, lle’r oedd hefyd yn Gymrawd yng Ngholeg Selwyn, a bu’n Athro Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Sheffield o 2000 tan 2004.

Yn 2005 aeth yr Athro McMahon yn ei hôl i Brifysgol Caeredin ar ôl ei phenodi yn Athro Forbes Iaith Saesneg ac yn bennaeth ar yr Adran Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg. Yn dilyn hyn cafodd ei phenodi’n Bennaeth Coleg y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol cyn dechrau ar ei swydd bresennol yn Is-Brifathro ym mis Medi 2009.

Dywedodd yr Athro McMahon:

“Mae’n bleser ac anrhydedd imi gael fy ngwahodd i arwain Prifysgol Aberystwyth yng ngham nesaf ei hanes, cam a fydd yn hanfodol bwysig.”

“Mae hi’n adeg heriol i Addysg Uwch. Ar lawer agwedd, mae’r llyfr rheolau yn cael ei ailwampio’n llwyr, ond mae rhai egwyddorion pwysig sy’n aros yn ddigyfnewid. Dyma’r blaenoriaethau a fydd yn aros yn y Brifysgol hon: cyfleoedd dysgu ardderchog; cymorth i fyfyrwyr sy’n arwain y byd; ymchwil sydd ar flaen y maes mewn ystod eang o ddisgyblaethau academaidd – a hyn oll mewn amgylchedd sydd heb ei ail.”

Meddai Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth:

“Mae prifysgolion yn wynebu cyfnod o newid digyffelyb ac rwy’n arbennig o falch fod  Aberystwyth wedi llwyddo i ddenu arweinydd newydd o safon yr Athro McMahon. Edrychaf ymlaen yn fawr i weithio gyda hi er mwyn cyflymu datblygiad y Brifysgol fel sefydliad a dywysir gan ymchwil, sy’n gystadleuol ar lwyfan byd-eang, ac sydd hefyd yn cyflawni ei hymrwymiadau yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.”

Ieithyddiaeth yw disgyblaeth academaidd yr Athro McMahon. Mae ei hymchwil wedi canolbwyntio ar gymariaethau rhwng gwahanol dafodiaethau Saesneg, gyda diddordeb arbennig mewn Sgoteg, sut mae ieithoedd yn newid, astudiaethau amlddisgyblaethol o’r berthynas deuluol rhwng ieithoedd, a goblygiadau ieithoedd mwyafrifol tresmasol.

Y mae hi’n awdur ac yn gydawdur nifer o gyfrolau, gan gynnwys Lexical Phonology and the History of English (Gwasg Prifysgol Caergrawnt), Change, Chance, and Optimality (Gwasg Prifysgol Rhydychen), Understanding Language Change (Gwasg Prifysgol Caergrawnt), An Introduction to English Phonology (Gwasg Prifysgol Caeredin) a hi yw cyd-olygydd y cyfnodolyn English Language and Linguistics a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caergrawnt. Y mae’n Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Caeredin ac o’r Academi Brydeinig.

Cafodd yr Athro McMahon ei phenodi ym mis Ionawr 2011 ac eisoes mae wedi ymroi i ddysgu Cymraeg ers i’r penodiad gael ei wneud. Mae’n briod ac yn fam i dri o blant.

 AU18511