Y Fedal Ryddiaith

Manon Rhys, enillydd y Fedal Ryddiaeth, yn cael ei chyflwyno (llun BBC).

Manon Rhys, enillydd y Fedal Ryddiaeth, yn cael ei chyflwyno (llun BBC).

04 Awst 2011

Ar y 3 Awst, ac am yr ail waith yr wythnos hon, mae cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi cipio un o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.

Graddiodd Manon Rhys yn y Gymraeg yn Aberystwyth ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. A hithau yn ysgrifennu o dan y ffug enw ‘Sitting Bull’, cyflwynwyd y Fedal Ryddiaith iddi am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema “Gwrthryfel”. 

Wrth draddodi’r feirniadaeth ar ran ei gyd-feiriniaid Hazel Walford Davies a Branwen Jarvis, dywedodd Grahame Davies, “Nid oeddem yn unfryd ynghylch teilyngdod y gwaith hwn, ond cytunwn mai’r stori sensitif ac ymataliol hon yw’r gryfa yn y gystadleuaeth.

“Dyma awdur crefftus a graenus, sy’n cydio’n emosiynol ac yn ddeallusol, sy’n feistr ar dafodiaith, ac sy’n ymddiried yn nychymyg y darllenydd. Dyma lenor talentog, llais gwreiddiol, a stori afaelgar. Ar sail y cryfderau digamsyniol hynny, Sitting Bull gaiff y gwahoddiad i eistedd yn hedd yr Eisteddfod.”

Ymhlith ei chyhoeddiadau niferus, mae Cwtsho, Tridiau ac Angladd Cocrotshen, trioleg Y Palmant Aur, Cornel Aur, a’r nofel Rara Avis, a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2006. Hi oedd golygydd y casgliadau o straeon Ar Fy Myw a Storîau’r Troad a’r casgliad o gerddi, Cerddi’r Cymoedd, a gwerthfawrogodd y cyfle i gydweithio â’r Athro M. Wynn Thomas wrth olygu’r gyfrol J. Kitchener Davies: detholiad o’i waith, sef casgliad cyflawn o weithiau ei thad. Am ddeng mlynedd, cydolygodd y cylchgrawn llenyddol Taliesin gyda’r Prifardd Christine James.

Ysgrifennodd amryw o sgriptiau teledu, gan gynnwys cyfresi poblogaidd fel Almanac, Pobol y Cwm, Y Palmant Aur a’r ffilmiau Iâr Fach yr Haf a Toili Parcmelyn.

Bu’n diwtor Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac yn diwtor achlysurol yng Nghanolfan Ysgrifennu Creadigol Tŷ Newydd. Mae hi bellach yn ysgrifennu dilyniant Rara Avis.

Ddydd Mawrth 2 Awst cyflwynwyd Gwobr Goffa Daniel Owen i’w chyd-gyn-fyfyriwr, Daniel Davies, am ei nofel Tair Rheol Anrhefn.

AU19511