Cadair Jean Monnet

Dr Elena Korosteleva

Dr Elena Korosteleva

05 Medi 2011

Dyfarnwyd Cadair nodedig Jean Monnet am addysgu astudiaethau integreiddio Ewropeaidd i Dr Elena Korosteleva, Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ewropeaidd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd.

Cafodd Dr Korosteleva un o dair Cadair yn unig i’w dyfarnu i sefydliadau addysg uwch yn y DU eleni, ac mae’r penodiad hwn yn garreg filltir sylweddol yn natblygiad y Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd a ail-lansiwyd yn ddiweddar.

Dywedodd Dr Korosteleva, “Mae’n anrhydedd i mi fod y Comisiwn Ewropeaidd wedi dewis rhoi’r dyfarniad hwn i mi ac i Brifysgol Aberystwyth. Caiff Cadair Jean Monnet Chair ei chyflwyno i sefydliadau addysg uwch sy’n dangos rhagoriaeth wrth addysgu astudiaethau integreiddio Ewropeaidd ac mae gwaith yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd wedi’i gydnabod yn waith o ansawdd byd-eang yn hyn o beth. Pwysleisiodd gwerthuswyr gweithredu Jean Monnet fod natur arloesol y Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd, sy’n ganolfan ddysgu sy’n cael ei harwain gan ymchwil ac sydd â llais myfyrwyr cryf, yn elfen allweddol yn y penderfyniad hwn.”

Gan sôn am y dyfarniad, dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Hoffwn longyfarch Dr Korosteleva ar ei chyflawniad ac am sicrhau'r fath glod i’w hadran ac i’r sefydliad. Mae Cadair Jean Monnet yn cydnabod y cysylltiad rhwng dysgu ac ymchwil sydd yn allweddol i’n cennad ni yma yn Aberystwyth ac rwyf wrth fy modd gyda’r gydnabyddiaeth gadarnhaol yma o’r gwaith rhyngddisgyblaethol mae’r Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd yn ei wneud. Dymunaf bob llwyddiant iddi yn y rôl.”

Nod rhaglen Jean Monnet yw hybu addysgu ac ymchwil ym maes astudiaethau integreiddio Ewropeaidd mewn sefydliadau addysg uwch o fewn a thu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd.

Lansiwyd y rhaglen ym 1989, ac mae bellach yn bodoli mewn 62 o wledydd drwy’r byd, gyda thua 740 o brifysgolion yn cynnig cyrsiau Jean Monnet fel rhan o’u cwricwla. Rhwng 1990 a 2010 mae Gweithredu Jean Monnet wedi helpu i sefydlu tua 2250 o brosiectau ym maes astudiaethau integreiddio Ewropeaidd gan gynnwys 150 o Ganolfannau Rhagoriaeth Jean Monnet, 823 Cadair a 263 o gyrsiau parhaol, 944 o fodiwlau Ewropeaidd a 30 o grwpiau ymchwil.

AU21211