Llwyddiant recriwtio

Prifysgol Aberystwyth o'r awyr.

Prifysgol Aberystwyth o'r awyr.

06 Medi 2011

Eleni mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn y niferoedd uchaf erioed o geisiadau gan fyfyrwyr. Mae hyn, ynghyd â niferoedd uwch nag arfer o fyfyrwyr yn cyrraedd eu graddau wedi golygu bod hon yn flwyddyn eithriadol ar gyfer recriwtio myfyrwyr. 

Meddai’r Athro Martin Jones, Dirprwy Is-Ganghellor: “Rydym yn teimlo’n freintiedig iawn i fod mewn sefyllfa o’r fath. Prifysgol Aberystwyth oedd yr unig brifysgol yng Nghymru i beidio â mynd i mewn i’r system glirio eleni, sy’n brawf o’r ddarpariaeth dysgu ac addysgu o safon uchel yn Aberystwyth.  Mae perfformio’n gryf flwyddyn ar ôl blwyddyn o ran boddhad myfyrwyr wedi esgor ar y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr yn derbyn lle yn y Brifysgol.”

Ar amser pan mae’r niferoedd o fyfyrwyr o Gymru yn gostwng, mae Aberystwyth wedi cynyddu’r nifer o fyfyrwyr o Gymru o 4% a hynny mewn meysydd o flaenoriaeth uchel yn genedlaethol.

Mae Aberystwyth wedi torri pob record o ran recriwtio i Fathemateg a Ffiseg. Mae’r niferoedd o dderbyniadau i fyny o 24% a 58% yn y drefn honno (ymhell uwchben tueddiadau cenedlaethol ar gyfer derbyniadau i’r pynciau hyn, sef 6% a 12.6%).

Mae Ieithoedd Modern hefyd yn faes lle mae’r twf yn Aberystwyth wedi bod yn drawiadol, gyda chynnydd o 47% o’i gymharu â’r llynedd.

O ganlyniad, mae galw mawr am lety yn y dref ac o fewn preswylfeydd y Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn hyderus, fodd bynnag, y bydd yn gallu cwrdd â’r gwarant o lety ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf trwy ddarparu cyfres o ddulliau dyfeisgar a hyblyg.

Yn ogystal â’r neuadd breswyl newydd fydd yn cael ei chwblhau erbyn dechrau’r tymor, mae’r Brifysgol yn cyflwyno nifer o ystafelloedd gwelyau bync. Bydd gan yr ystafelloedd hyn naill ai  ddau wely sengl neu welyau bync ym mhob ystafell a byddant yn darparu amrywiaeth o fuddion i’w preswylwyr.

Meddai’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae ystafelloedd gyda gwelyau bync wedi bod yn ateb poblogaidd mewn brifysgolion eraill ac yn galluogi inni ddarparu llety i fwy o’n myfyrwyr yn y flwyddyn eithriadol hon. 

“Mae’r drefn ar gyfer ystafelloedd yn sicrhau bod myfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd, yn fwy aml na dim, yn gadael cartref am y tro cyntaf yn gallu gwneud ffrindiau yn sydyn gyda myfyrwyr mewn sefyllfa debyg. Mae hyn hefyd yn cydnabod y pwysau ariannol cynyddol sydd ar fyfyrwyr ac yn darparu dewis fforddiadwy yn wyneb costau cynyddol.”

Bydd y Brifysgol hefyd yn buddsoddi adnoddau sylweddol i sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i fwynhau un o’r profiadau myfyrwyr gorau yn y DG.

Mae’r Brifysgol yn gweithio gydag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth er mwyn sicrhau llwyddiant yr ystafelloedd gwelyau bync. Meddai Ben Meaking, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: “ Er nad yw gwelyau bync yn ddelfrydol, o leiaf byddant yn darparu gwely i fyfyrwyr. Rydym yn gweithio i sicrhau bod pob myfyriwr sydd mewn ystafell gwely bync yn cael y profiad ardderchog mae Aberystwyth yn enwog amdano.” 

Mae cyflwyno’r ystafelloedd gwelyau bync hefyd yn sicrhau bod y Brifysgol yn gallu cefnogi myfyrwyr sydd eto heb sicrhau llety yn y sector preifat. Bydd myfyrwyr sydd wedi gwneud cais am ystafell o fewn preswylfeydd y Brifysgol yn derbyn cynnig o lety yn ystod yr wythnos nesaf.

AU21311