Fflam Olympaidd

Yr iCub.

Yr iCub.

13 Medi 2011

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi enwebu robot dynolffurf ar gyfer cario’r Fflam Olympaidd fel rhan o Ras Gyfnewid Ffagl Olympaidd Llundain 2012.

Enwebwyd yr iCub gan Dr James Law o Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol er mwyn nodi canmlwyddiant genedigaeth Alan Turing, tad cyfrifiadureg fodern, yn 2012.

Mae’r iCub, robot dynolffurf tebyg i blentyn yn rhan o brosiect ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd yn astudio prosesau dysgu mewn plant ifanc er mwyn eu trosglwyddo i strategaethau dysgu mewn robotiaid.

Dywedodd James: “2012 fydd canmlwyddiant geni Alan Turing, sefydlydd cyfrifiadureg ac aelod hollbwysig o’r ymdrechion i dorri’r côd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Byddai i robot gario’r fflam yn deyrnged briodol iawn i Alan Turing ac yn ysbrydoliaeth i genedlaethau a ddaw o wyddonwyr a pheirianwyr.

“Mae Alan Turing yn adnabyddus am ei waith yn datblygu technegau cyfrifiadurol ar gyfer torri côd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond rhan fach yn unig oedd hwn o’i waith sydd wir yn ysbrydoli. Ef greodd un o’r dyluniadau cyntaf o gyfrifiadur sydd â rhaglen wedi ei chofnodi arno a gosododd y seiliau ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial. Mae’r hyn a gyflawnodd wedi arwain at y byd llawn cyfrifiaduron yr ydym yn byw ynddo heddiw, a pharatoi’r ffordd i’r gwaith ymchwil roboteg sydd yn cael ei wneud yma ym Mhrifysgol Aberystwyth”, ychwanegodd.  

Prynwyd yr iCub gan y Grŵp Roboteg Ddatblygiadol yn Aberystwyth fel rhan o gynllun “IM-CLeVeR” - Intrinsically Motivated Cumulative Learning Versatile Robots, a’r nod yw datblygu rheolyddion robot newydd sydd yn seiliedig ar syniadau a ysbrydolwyd gan niwrowyddoniaeth a seicoleg.

Mae ymchwil y Grŵp Roboteg Ddatblygiadol yn canolbwyntio ar ganfod prosesau datblygu mewn babanod a’u trosi’n strategaethau ar gyfer dysgu mewn roboteg.

Mae’r prosiect yn cynnwys 10 sefydliad partner ar draws Ewrop yn gweithio mewn meysydd sy’n cynnwys roboteg, niwrowyddoniaeth, seicoleg ddatblygiadol, a dysgu peiriant.

Daeth y cyllid, €5.9m yn ei gyfanrwydd a £760,000 i’r tîm o Aberystwyth, oddi wrth Seithfed Raglen Fframwaith Systemau Dirnadol, Rhyngweithio, Roboteg y Gymuned Ewropeaidd.

Enwebwyd yr iCub ar gyfer cario’r Fflam Olympaidd gyda Lloyds TSB.

AU22411