Gwobr perfformio

Dr Heike Roms.

Dr Heike Roms.

15 Medi 2011

Mae’r Dr Heike Roms o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wedi ennill Gwobr David Bradby TaPRA am Ymchwil i Theatr a Pherfformio Rhyngwladol. Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu – am y tro cyntaf eleni – am ymchwil eithriadol mewn unrhyw faes o Astudiaethau Theatr a Pherfformio.

Noddir y wobr gan Gymdeithas Ymchwil i Theatr a Pherfformio, TaPRA, ym Mhrydain, ac fe’i henwyd er anrhydedd i’r diweddar Athro David Bradby, un o leisiau mwyaf blaenllaw ym maes ymchwil i’r theatr yng ngwledydd Prydain.

Cyflwynwyd y wobr i’r Dr Roms yng nghynhadledd flynyddol TaPRA a gynhaliwyd eleni ym Mhrifysgol Kingston.

Ariannwyd y tîm ymchwil o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mae’r tîm, sy’n cynnwys y cynorthwyydd ymchwil, y Dr Rebecca Edwards, wedi creu adnodd ar-lein sy’n ‘lleoli’ hanes cynnar celfyddyd berfformiadol yng Nghymru rhwng 1965 a 1979.

Mae’r wefan, “It was forty years ago today” - Locating the early history of performance art in Wales 1965-1979, yn cynnwys digwyddiadau megis ‘Happenings’ yng Nghaerdydd yn 1965, “Fluxus” yn Aberystwyth yn 1968 a cherddoriaeth fyrfyfyr ar Ynys Môn yn 1970.

Treuliodd y tîm ymchwil ddwy flynedd yn chwilio drwy’r archifau, mewn casgliadau mawr megis y Llyfrgell Genedlaethol, ac Archif ‘Tate’ yn Llundain, ond hefyd mewn llawer o gasgliadau preifat, ac fe ategwyd y cwbl gan oriau o gyfweliadau â rhai o’r prif unigolion a oedd yno.

Enillodd y gwaith glod y beirniaid fel ‘prosiect ymchwil arwyddocaol’, ‘eithriadol o wreiddiol a phellgyrhaeddol’ ac yn ‘esiampl o ymroddiad dros amser i bwnc penodol’.

Dywedodd y Dr Roms “Roedd hi’n anrhydedd inni gael y wobr hon. Mae’n enghraifft o’r gydnabyddiaeth gynyddol sy’n cael ei rhoi i’r datblygiadau pwysig a hynod ddiddorol ym maes arbrofi celfyddydol a wnaed yng Nghymru yn ystod y 1960au a’r 1970au.”

“Gobeithio y bydd yr adnodd hwn, sy’n cwmpasu rhyw 650 o ddigwyddiadau, yn cael eu defnyddio er mwyn inni gael gwell syniad o sut y tyfodd a datblygodd celfyddyd berfformiadol, a’r rhwydweithiau a’r sefydliadau cysylltiedig, yma yng Nghymru, yng ngwledydd Prydain a’r tu hwnt.”

Mae’r adnodd ar-lein i’w weld yn www.performance-wales.org