Hwylio ymlaen

Mrs Ann Robertson (eistedd) ac aelodau o Glwb Hwylio’r Brifysgol.

Mrs Ann Robertson (eistedd) ac aelodau o Glwb Hwylio’r Brifysgol.

28 Medi 2011

Mae cwch diogelwch gwynt wedi ei gyflwyno’n rhodd i Glwb Hwylio Prifysgol gan gyn-fyfyrwraig o Aber, Mrs Ann Robertson.
Dywedodd Mrs Robertson, sydd yn byw yn Aberystwyth “Mae Aber wedi bod yn rhan o’m mywyd  ar hyd yr amser. Bu fy rhieni, fy merch a finnau yn astudio yma. Rwy’n falch o allu gwneud y cyfraniad hwn nawr.”
Cafodd Mrs Robertson ei chroesawu i’r Tŷ Cwch yn Aberystwyth gan Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr yr Undeb, Alun Minifey, a Chomodor y Clwb Hwylio, Tom Davies.
Cyflwynwyd blodau i Mrs Robertson gan aelodau o’r clwb hwylio a diolchwyd iddi am ei haelioni.
 
Mae gan y clwb oddeutu 40 o aelodau a bydd y rig, sydd nid yn annhebyg i’r rhai sydd yn cael eu defnyddio gan y Bad Achub, yn caniatáu i’r aelodau ymarfer hwylio yn ddiogel o amgylch Bae Ceredigion. 
Ychwanegodd Alun Minifey; “Mae’r Undeb a’r Undeb Athletau yn hynnod ddiolchgar i Mrs Robertson am ei haelioni. Mae hyn yn mynd i alluogi’r clwb i ddatblygu a gwireddu ei botensial. Hoffwn ddiolch i Mrs Robertson unwaith eto, rhydym mod ddiolchgar am ei chefnogaeth.”
Mae Julian Smyth, Cyfarwyddwr Datblygu Aberystwyth, hefyd wrth ei fodd gyda haelioni Mrs Robertson: “Mae Ann yn cynrychioli’r gorau o deulu estynedig alumni Aber. Mae ei brwdfrydedd hi ei hunan dros hwylio yn golygu ei bod wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol a hir-dymor o ran diogelwch myfyrwyr sydd yn hwylio a rhywbeth a fydd o fudd i genedlaethau o forwyr ifanc am flynyddoedd i ddod. Rydym oll yn ddiolchgar iawn i Ann am ei chefnogaeth.”