Ymweliad Brenhinol.

Yr Is-Ganghellor April McMahon a EUB Iarll Wessex.

Yr Is-Ganghellor April McMahon a EUB Iarll Wessex.

14 Hydref 2011

Ar ddydd Iau 13 Hydref, croesawodd Prifysgol Aberystwyth EUB Iarlll Wessex i’r Brifysgol.

Roedd ymweliad EUB Iarlll Wessex â’r Brifysgol yn rhan o ddathliadau Gwobrau Dug Caeredin gafodd eu cynnal yng Nghanolfan Gynadledda MedRus ar gampws Penglais.

Yn ystod ei ymweliad bu’n cwrdd ag aelodau uwch o’r Brifysgol gan drafod sut mae’r sefydliad yn mynd ati i gwrdd ag anghenion cenedlaethau o fyfyrwyr a staff i’r dyfodol drwy ddarparu addysg, dysgu a gwasanaethau o’r radd flaenaf – a’r hyn oll yn cyfrannu at y profiad myfyrwyr gwych a geir yn Aberystwyth.

Croesawodd yr Is-Ganghellor, yr Athro April Mc Mahon, EUB Iarll Wessex i’r Brifysgol cyn ei gyflwyno i’r digwyddiad Gwobrau Dug Caeredin ble bu’n annerch cynulleidfa nodedig o gynrychiolwyr lleol cyn ymuno â thîm uwch y Brifysgol am gyflwyniad byr. 

Dywedodd yr Athro McMahon: “Rydym yn hynod falch o groesawu EUB Iarll Wessex i’r Brifysgol ac i’w wahodd i ddysgu am sut mae ein sefydliad yn tyfu ac yn cwrdd ag anghenion staff a myfyrwyr sydd yma ar hyn o bryd yn ogystal â chenedlaethau’r dyfodol.  Bues i a’m cydweithwyr, yn egluro i’r Iarll am ein gweledigaeth i’r dyfodol, ac am sut y byddwn ni yn parhau i ddenu myfyrwyr o bob cwr o’r byd i’n sefydliad sydd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol.”

Dywedodd Mrs Stephanie Price, Cyfarwyddwr y Cynllun Gwobrau Dug Caeredin yng Nghymru: “Mae ein digwyddiad Dyfodol Disglair yn dathlu cyraeddiadau pobl ifanc yng Nghymru ac rwy’n hynod falch bod EUB Iarlll Wessex yn gallu ymuno â ni er mwyn nodi’r achlysur arbennig hwn a phwysigrwydd cyfraniad y bobl ifanc.
 
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Aberystwyth am eu holl gymorth wrth gynnal y digwyddiad hwn, y cyfleusterau sydd ar gael a’r croeso cynnes sydd wedi sicrhau bod y digwyddiad hwn yn llwyddiant mawr”

Cynhelir y digwyddiad Dyfodol Disglair yng Nghanolfan Gynadledda MedRus ym Mhrifysgol Aberystwyth.

AU25011