Darlith wadd

Dr Kay Swinburne MEP.

Dr Kay Swinburne MEP.

19 Hydref 2011

Dr Ar ddydd Iau 20 Hydref 2011 bydd Dr Kay Swinburne ASE yn traddodi darlith ar y pwnc “The European Parliament: the democratic element to dealing with the Eurozone crisis” ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Caiff y ddarlith, a drefnir gan Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd, ei chynnal ym Mhrif Neuadd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am 2.30yp ac mae croeso cynnes i fyfyrwyr, staff ac aelodau o’r gymuned leol. 

Yn ystod ei darlith bydd Dr Swinburne yn son am ei phrofiadau fel Aelod Seneddol Ewropeaidd gan esbonio sut mae’r Senedd Ewropeaidd yn gweithio gyda sefydliadau o fewn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn ymateb i’r argyfwng o fewn y rhanbarth Ewropeaidd.
 
Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llandysul ac aeth ymlaen i astudio Biocemeg a Microbioleg yng Ngholeg y Brenin, Llundain, cyn cael PhD mewn ymchwil feddygol a MBA o Brifysgol Surrey. Etholwyd Kay yn ASE Ceidwadol dros Gymru ym Mehefin 2009.

Ar hyn o bryd mae Dr Swinburne yn Gydlynydd Grŵp y Ceidwadwyr a’r Diwygwyr Ewropeaidd (ECR) ar y Pwyllgor Economaidd ac Ariannol yn Senedd Ewrop (ECON); a Chydlynydd y Grŵp ECR ar Bwyllgor Arbennig yr Argyfwng Ariannol, Economaidd a Chymdeithasol (CRIS). Mae hefyd yn aelod o Gynulliad Seneddol EuroMed (DMED).

Dywedodd Dr Elena Korosteleva, y Gadair Jean Monnet yng Ngwleidyddiaeth Ewropeaidd a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd: “Rydym yn hynod falch o groesawu Dr Kay Swinburne i’r Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn edrych ymlaen yn fawr at ddigwyddiad diddorol dros ben.”

Am ragor o wybodaeth ac er mwyn archebu lle, ewch i www.aber.ac.uk/ces

AU25511