Noye's Fludde

Clare Williams o Opera Canolbarth Cymru, Lily Pryce oYsgol Graig yr Wylfa, Borth gyda Hannah Scrase, Cyfarwyddwr Size of Wales

Clare Williams o Opera Canolbarth Cymru, Lily Pryce oYsgol Graig yr Wylfa, Borth gyda Hannah Scrase, Cyfarwyddwr Size of Wales

20 Hydref 2011

Dyma ddehongliad unigryw o stori boblogaidd Arch Noa mewn prosiect arloesol sy'n cynnwys dros fil o bobl ifanc o bob rhan o Gymru. Mae Opera Canolbarth Cymru yn ymuno â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a pedair canolfan arall yng Nghymru i gyflwyno cynhyrchiad newydd deinamig o opera Benjamin Britten Noye's Fludde gyda'r geiriau yn cael eu cymryd o'r ddrama ddirgel ganoloesol.

Mae hwn yn addasiad bywiog, ffraeth a pherthnasol o stori gyfarwydd sy'n cynnwys cannoedd o actorion, cantorion, offerynwyr a dawnswyr ifanc o ardal Aberystwyth, a fydd yn gweithio ochr yn ochr â cherddorfa broffesiynol a phrif gantorion Opera Canolbarth Cymru, gyda choreograffi a greuwyd gan Ballet Cymru. Cefnogir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Colwinston a Size of Wales - cynllun unigryw i gynnal darn o fforest law drofannol sydd yr un maint â Chymru fel rhan o'r ymateb cenedlaethol i newid yn yr hinsawdd.

Cyflwynir Llais Duw gan yr amgylcheddwr a'r cyflwynyddteledu Iolo Williams. ‘'Rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o brosiect mor gyffrous a phwysig' meddai Mr Williams, ‘mae'r thema o newid yn yr hinsawdd a bwysleisir yn y cynhyrchiad hwn yn hynod bwysig i ddyfodol ein plant ac ‘rwy'n croesawu cyfraniad Size of Wales i'r prosiect.'

Bydd plant a phobl ifanc o ysgolion, grwpiau theatr ieuenctid, grwpiau dawns a cherddorfeydd ledled y wlad yn perfformio rolau eraill, yn chwarae, yn dawnsio ac yn canu, o dan arweiniad Cyfarwyddwr Artistig Opera Canolbarth Cymru, Nicholas Cleobury.

Mae'r syniad wedi'i ddyfeisio a'i gyfarwyddo gan Clare Williams sydd wedi treulio'r 25 mlynedd diwethaf yn cynhyrchu gweithgareddau ar raddfa fawr ar gyfer pobl ifanc. ‘Mae'n sialens mawr i gynhyrchu opera mewn 8 niwrnod ond mae Cymru mor gyfoethog o safbwynt talent gerddorol a theatrig ‘rydym yn hyderus y bydd y bobl ifanc yn gwneud cyfiawnder â'r darn.'

Bydd Cwmni Opera Canolbarth Cymru yn treulio cyfnod preswyl yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o 16eg tan 20fed Hydref, yn gweithio gyda'r ysgolion canlynol:

Ysgol Gynradd Gymraeg, Ysgol Gynradd Plascrug, Ysgol Gynradd Llangynfelyn, Ysgol Gynradd Myfenydd, Ysgol Gynradd Talybont, Ysgol Gynradd Craig yr Wylfa, Ysgol Gynradd Comins Coch ac Ysgol Uwchradd Penglais ac Ysgol Uwchradd Tregaron.

Cynhelir y perfformiad ar Nos Iau 20fed Hydref