Ffiseg ysbrydoledig

Chwith i’r Dde: Yr Athro Manuel Grande, yr Athro April McMahon, Mrs Susan Jenkins, Morgan Jenkins a Meurig Jenkins yn dilyn dadorchuddio’r plac i goffau Dr Tudor Jenkins.

Chwith i’r Dde: Yr Athro Manuel Grande, yr Athro April McMahon, Mrs Susan Jenkins, Morgan Jenkins a Meurig Jenkins yn dilyn dadorchuddio’r plac i goffau Dr Tudor Jenkins.

09 Tachwedd 2011

Mae labordai sydd newydd eu hadnewyddu yn Sefydliad Mathemateg a Ffiseg (SMFf) Prifysgol Aberystwyth wedi eu henwi ar ôl Dr Tudor Jenkins, “athro ffiseg ysbrydoledig” a fu farw yn ddisymwth ym mis Tachwedd 2009. 

Cafodd Labordai Tudor Jenkins eu diweddaru ar gost o fwy na £300,000 a’u hagor yn swyddogol gan Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon, ar ddydd Llun 7 Tachwedd.

Ymunodd gweddw Dr Jenkins, Mrs Susan Jenkins, a’i meibion Morgan a Meurig â’r Athro McMahon i  ddadorchuddio plac i goffau’r digwyddiad. Nid oedd ei merch, Bethan, yn medru bod yn bresennol oherwydd ymrwymiadau gwaith.

Wrth annerch cynulleidfa o staff a myfyrwyr o SMFf, dywedodd yr Athro McMahon: “Mae’n bleser mawr gen i agor y Labordai Tudor Jenkins newydd. Mae’n amlwg o’r nifer staff sydd wedi mynd ymlaen i weithio i’r sefydliad ar ôl astudio gyda Dr Jenkins, ei fod yn ffigwr a oedd yn ysbrydoli ac a oedd yn hollol ymroddedig i ddysgu ffiseg ar bob safon. Mae’n hollol briodol felly fod y labordai newydd yma yn arddel ei enw.”

Dywedodd yr Athro Manuel Grande, Pennaeth SMFf: “Mae Mathemateg a Ffiseg yma yn Aberystwyth wedi mwynhau un o’r blynyddoedd recriwtio mwyaf llwyddiannus yn y cyfnod diweddar gyda chynnydd o 58% yn nifer y myfyrwyr sydd yn astudio Ffiseg yn y flwyddyn academaidd 2011/12 yn unig. Mae Labordai Tudor Jenkins yn cynnig y diweddaraf mewn technoleg ddysgu a gofod golau hyblyg sydd yn golygu ein bod yn gallu derbyn grwpiau myfyrwyr llawer mwy heb gyfaddawdu ar safon eu profiad dysgu ac addysgu. O fod wedi gwneud hyn, rwy’n siŵr y byddai Tudor yn cymeradwyo.”

Ymunodd Dr Tudor Jenkins, a oedd yn wreiddiol o Dreherbert yn Ne Cymru, ag Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn 1983.  Daeth yn Uwch Ddarlithydd yn 1990 ac yna’n Ddarllenydd mewn Ffiseg yn 2007. Cafodd ei nodweddion ysbrydoledig fel athro eu cydnabod yn 2005 pan gyflwynwyd iddo Wobr Ragoriaeth Addysgu’r Brifysgol. 

Tra yn Aberystwyth sefydlodd grŵp ymchwil astudio priodweddau tra-ffilmiau tenau ar solidau a datblygodd ffyrdd newydd o astudio eiddo electronig solidau trwy ddefnyddio spectroscopi optegol.

Yn fyfyriwr israddedig bu’n astudio Ffiseg yng Ngholeg Corpus Christi, Rhydychen, lle'r oedd yn Ysgolor Agored. Yna ymunodd â Labordy Clarendon, Rhydychen, lle’r enillodd ei ddoethuriaeth D. Phil. yn yr elfennau electronig o insiwleiddio solidau o dan oruchwyliaeth Dr JW Hodby.

Wedi hyn treuliodd bedair blynedd yn gynorthwyydd ymchwil ôl-ddoethuriaethol ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn cael ei benodi’n Ddarlithydd mewn micro-electroneg ym Mhrifysgol St Andrews yn 1979.

Roedd yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg (IoP) a derbyniodd Fedal Cadeirydd Canghennau yr IoP am ei wasanaethau i Ffiseg yng Nghymru yn 2003.

AU26811