Wythnos Fenter 2011

10 Tachwedd 2011

Wythnos Fenter 2011 :  14 – 18 Tachwedd

I ddathlu Wythnos Fenter y Byd, bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i fyfyrwyr, graddedigion a staff, o 14 i 18 Tachwedd 2011.

I’r rhai sydd â diddordeb mewn sefydlu eu busnes eu hunain, cynhelir Sesiwn Rhagflas ar Gymorth i Gychwyn Busnesau ddydd Llun 14 Tachwedd. Yno cewch gyflwyniad i’r materion a’r prosesau sy’n berthnasol i sefydlu menter newydd.  

Ddydd Mawrth 15 Tachwedd, bydd Mentrwr Cymdeithasol lleol yn trafod sefydlu a rhedeg menter gymunedol lwyddiannus yng nghefn gwlad y Canolbarth.

Fyfyrwyr, beth am ddechrau dydd Mercher 16 gyda ‘brechdan bacwn’ AM DDIM yn nigwyddiad rhwydweithio Clwb Menter Crisalis? Dewch i ymuno â’n Rheolwr Menter a’n Myfyrwyr ar Leoliadau Gwaith, ymarfer eich sgiliau rhwydweithio a chyfarfod â phobl eraill sy’n ymddiddori mewn ‘Menter’ dros frecwast ysgafn. Bydd y digwyddiad hefyd yn achlysur lansio cystadleuaeth syniadau myfyrwyr Rhwydwaith Menter Crisalis, ‘£100 am 100 gair’.

Dewch i ymuno â’r Tîm Menter ddydd Iau 17 am ychydig o ‘Fusnes Mwnci’ gyda’r mentrwr lleol, Laurence Hall.  Mae’r Great Primate Handshake, a sefydlwyd gan Laurence, yn codi ymwybyddiaeth am warchodfeydd primatiaid a rhaglenni cadwraeth drwy gynhyrchu deunydd ar fideo, y we a chyfryngau electronig i gymunedau, ysgolion a phobl ar draws y byd. Cyfle i ddysgu sut mae’r busnes yn trefnu ei deithiau, yn cynnwys gwirfoddolwyr sy’n dysgu sgiliau cynhyrchu newydd, yn gweithio yn uniongyrchol â gwarchodfeydd primatiaid ac yn ymchwilio i sut y gallent gydweithio i atal primatiaid rhag prinhau ar draws Affrica.

Ddydd Gwener 18, rydym yn gwahodd myfyrwyr i edrych i’r dyfodol a chael gwybod am y cyfleoedd menter sydd ar y gweill. Fyddai gennych ddiddordeb mewn bod yn Fyfyriwr Lleoliad Gwaith Crisalis yn 2012, mewn cynrychioli Prifysgol Aberystwyth mewn cystadleuaeth fenter genedlaethol (FLUX) neu ddod i Wythnosau Cychwyn Busnes ym mis Rhagfyr neu Fehefin? Os felly, cofrestrwch am y digwyddiad hwn gyda Chlwb Menter Crisalis lle y cewch y wybodaeth i gyd.

Drwy gydol yr wythnos cadwch lygad ar agor am ein Stondin Menter ‘Ar Daith’ ar y campws. Galwch draw i gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau’r wythnos, i gwrdd â’n Myfyrwyr Lleoliadau Gwaith ac i roi cynnig ar ein ‘Catalydd Menter’ i weld a oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i fentro i fusnes.

“Os oes gennych syniad penodol am fusnes; neu fod gennych ddiddordeb mewn hogi’ch sgiliau menter; neu’n awyddus i gael gwybod mwy am hunangyflogaeth drwy glywed gan fentrwyr llwyddiannus, fe fydd rhywbeth ymlaen a fydd o ddiddordeb i chi” esboniodd Tony Orme, Rheolwr Menter y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori.

Am ragor o wybodaeth am raglen yr wythnos, neu am y gwasanaethau menter sydd ar gael i staff a myfyrwyr, gweler: www.aber.ac.uk/enterpriseweek.

AU27011