Cryfhau’r cyswllt â Tsiena

Yr Athro April McMahon yn derbyn plac gan yr Athro Zhu Chongshi, Llywydd Prifysgol Xiamen mewn derbyniad a gynhaliwyd gan yr Athro McMahon yn Y Plas.

Yr Athro April McMahon yn derbyn plac gan yr Athro Zhu Chongshi, Llywydd Prifysgol Xiamen mewn derbyniad a gynhaliwyd gan yr Athro McMahon yn Y Plas.

11 Tachwedd 2011

Cafodd Prifysgol Aberystwyth y fraint yn ddiweddar o groesawu dirprwyaeth o ymwelwyr pwysig o Tsiena.

Roedd y grŵp anrhydeddus o Brifysgol Xiamen yn cynnwys Yr Athro Chongshi ZHU, Llywydd Prifysgol Xiamen; Mr Tongwen MAO, Cyfarwyddwr Cyfnewid Rhyngwladol a Chydweithio; Yr Athro Jun LI, Deon Ysgol Gwyddor Gwybodaeth a Thechnoleg; Yr Athro Shide LING, Deon Ysgol Pensaernïaeth a Pheirianneg Sifil a Ms Hongbo YU, Pennaeth Adran ar gyfer Cyfnewid Rhyngwladol a Chydweithio a Chynorthwy-ydd Personol y Llywydd.
 
Eglurodd Yr Athro Aled Jones, Uwch Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae Prifysgol Xiamen yn un o sefydliadau addysg uwch mwyaf blaenllaw Tsieina ac y mae ymhlith yr 20 uchaf o’r 2236 o brifysgolion yn Tsieina.  Bu, am sawl blwyddyn, yn un o’r prifysgolion mwyaf anrhydeddus yn Asia ac yn gydnabyddedig am ymchwil o’r radd flaenaf a rhagoriaeth dysgu ar draws ystod eang o bynciau.
 
“Bu dirprwyaeth o Aberystwyth yn ymweld â Xiamen ar sawl achlysur yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae’r ddau sefydliad wedi bod yn gweithio ar ddatblygu ymchwil ar y cyd ym meysydd Cydberthynas Gwledydd a Gwyddor Cyfrifiadureg yn benodol.  Yn ystod ymweliad y ddirprwyaeth o Xiamen, dynodwyd potensial cydweithio cryf hefyd  yn y Gwyddorau Biolegol ac Amgylcheddol, a rhai meysydd o fewn Gwyddor Daear ac Astudiaethau Perfformio.   Roeddem yn arbennig o falch o groesawu dirprwyaeth mor nodedig o Xiamen i Aberystwyth, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyfnewidiadau academaidd pellach rhwng y ddwy brifysgol yn y dyfodol agos.”

Croesawyd y ddirprwyaeth i Brifysgol Aberystwyth gan yr Is-Ganghellor, Yr Athro April McMahon ac fe’u cyflwynwyd i staff a myfyrwyr allweddol o fewn y Brifysgol.  Dywedodd Yr Athro McMahon: “Mae’r berthynas sydd gennym gyda Phrifysgol Xiamen yn un hynod bwysig i ni wrth i ni ddatblygu ein strategaeth ryngwladol a chryfhau ein cydweithio academaidd, cydweithio ym maes ymchwil a chydweithio rhwng y cyfadrannaul. Rwy’n gobeithio’n fawr i’r Athro Zhu a’i gydweithwyr fwynhau eu hymweliad ag Aberystwyth cymaint ag y gwnaethon ni fwynhau eu cwmni.  Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael cydweithio â hwy ar amrywiaeth o brosiectau cyffrous ac arloesol.

“Byddaf yn dychwelyd y ffafr ac yn ymweld â Phrifysgol Xiamen ym mis Chwefror 2012 pan rwy’n gobeithio gallu parhau â’n trafodaethau a dysgu mwy am eu Sefydliad rhagorol.”

Fel rhan o’r ymweliad, trefnwyd nifer o ymweliadau ag adrannau Prifysgol Aberystwyth ynghyd ag achlysuron cymdeithasol i’r ddirprwyaeth gyda staff o’r Swyddfa Recriwtio a Chydweithio Rhyngwladol a staff o’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, yn ogystal â digwyddiadau a gynhaliwyd gan aelodau o staff a myfyrwyr Tsieineaidd y Brifysgol.

 AU27211