Gyrfa i Pudsey

Ben Meakin, Llywydd, Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth; Alun Minifey, Swyddog Gweithgareddau, Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth; Carolyn Parry, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth gyda’r myfyrwyr Mathemateg blwyddyn gyntaf, Jenni O’Neil a Jacque Hall.

Ben Meakin, Llywydd, Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth; Alun Minifey, Swyddog Gweithgareddau, Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth; Carolyn Parry, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth gyda’r myfyrwyr Mathemateg blwyddyn gyntaf, Jenni O’Neil a Jacque Hall.

16 Tachwedd 2011

Yr wythnos hon, gydag wythnos Plant Mewn Angen yn agosáu, mae staff Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn gofyn i fyfyrwyr ddewis gyrfa i Pudsey.

Bydd Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn treulio tri diwrnod yn ymgysylltu â myfyrwyr yn ac o gwmpas Urdd y Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth, gyda'r bwriad o godi arian ar gyfer Plant Mewn Angen, gan ofyn i fyfyrwyr ystyried gyrfa i Pudsey ac iddyn nhw eu hunain.

“Rydym yn gobeithio codi swm rhesymol o arian i’r ymgyrch Plant Mewn Angen drwy ofyn i bobl wneud cyfraniad wrth ddewis gyrfa i Pudsey.” esbonia Carolyn Parry, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaeth Ymgynghori ar Yrfaoedd. “Rydym hefyd yn codi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig i fyfyrwyr a graddedigion o’r Brifysgol i’w helpu i ddewis a datblygu eu gyrfaoedd. Bydd myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y gweithgaredd codi arian hwn hefyd yn cael tynnu eu llun â’u dewis o yrfa, i’w gosod ar dudalen Facebook y Gwasanaeth Gyrfaoedd.”

Dywedodd Ben Meakin, Llywydd Urdd Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: “Mae hyn yn ffordd ardderchog i gynnwys ein myfyrwyr mewn modd sy’n codi arian i elusen ond sydd hefyd yn gwneud iddynt feddwl ynglŷn â sut byddent yn dymuno i’w gyrfaoedd ddatblygu.”

Bydd y lluniau’n cael eu hychwanegu yn ystod yr wythnos hon, a bydd myfyrwyr eraill yn cael eu gwahodd i bleidleisio am eu hoff ddewis o yrfa. Bydd y cynnig buddugol yn ennill gwobr, sef tocyn pryd bwyd gwerth £40. Gellir gweld y lluniau yn: www.facebook.com/abercareers.

Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd, sydd wedi’i leoli ar Gampws Penglais, yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i fyfyrwyr a graddedigion sy’n helpu unigolion i ddewis gyrfa yn effeithiol, rhoi cynnig ar wahanol yrfaoedd drwy brofiad gwaith a chyfleoedd eraill sy’n agored iddynt tra yn y Brifysgol, yn ogystal â’i wneud yn haws symud ymlaen i fyd gwaith, astudiaethau pellach neu flwyddyn i ffwrdd ar ôl graddio.

AU27611