Ail-gyflunio addysg uwch

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

30 Tachwedd 2011

Mae'r Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon, wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg a Sgiliau na fydd disgwyl i brifysgolion Aberystwyth a Bangor symud tuag ar uniad ffurfiol ar hyn o bryd.

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad ar ailgyflunio addysg uwch gafodd ei wneud yn y Senedd ddydd Mawrth 29 Tachwedd, dywedodd yr Athro McMahon: “Rydym yn edrych ymlaen at wasanaethu buddiannau Cymru fel sefydliad annibynol llwyddiannus ond gan weithio yn agosach gyda’n cyfeillion a’n cymdogion ym Mangor.”

Dywedodd y Gweinidog ei fod yn derbyn cyngor Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru y dylai prifysgolion Aberystwyth a Bangor ehangu a dyfnhau eu partneriaeth strategol bresennol, ond na fydd yn disgwyl i’r bartneriaeth hon symud tuag at uniad ffurfiol ar hyn o bryd.

"Rwyf yn edrych ymlaen yn awr at drafod ymhellach gyda John Hughes o Brifysgol Bangor, sut y gallwn symud ein sefydliadau yn eu blaenau.  Mae hwn yn newyddion gwych i ni, nawr dewch i ni gael parhau gyda’r gwaith da!" ychwanegodd yr Athro McMahon.

Os am weld datganiad y Gweinidog, ewch i www.senedd.tv.