Cystadleuaeth Ymryson Cyfreitha

Cynrychiolwyr o Gymdeithas Ymryson Cyfreitha Prifysgol Aberystwyth University: Sofiya Kartalova (Is-Lywydd, Gweinyddiaeth); Liam Hunter (Is-Lywydd, Addysg); gyda’r cystadleuwyr Robert Donaldson (Llywywdd) a Charlotte Garbett (Is-Lywydd, Materion Mewnol)

Cynrychiolwyr o Gymdeithas Ymryson Cyfreitha Prifysgol Aberystwyth University: Sofiya Kartalova (Is-Lywydd, Gweinyddiaeth); Liam Hunter (Is-Lywydd, Addysg); gyda’r cystadleuwyr Robert Donaldson (Llywywdd) a Charlotte Garbett (Is-Lywydd, Materion Mewnol)

30 Tachwedd 2011

Heddiw, ddydd Mercher 30ain Tachwedd 2011, bydd myfyrwyr o Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn wynebu myfyrwyr o Brifysgol Dundee yn rownd gyntaf Cystadleuaeth Ymryson Cyfreitha Gwasg Prifysgol Rhydychen.

Mae’r gystadleuaeth flynyddol hon yn denu myfyrwyr o bob rhan o’r DG â’r nôd o baratoi myfyrwyr y Gyfraith am eu gyrfa a’u sgiliau eiriolaeth.

Bydd y gystadleuaeth a gynhelir am 2yp yn Hen Neuadd yr Hen Goleg yn gweld dau dîm o fyfyrwyr yn cyflwyno eu dadleuon fel petaent yn Llys yr Apêl neu’r Llys Goruchaf.

Cyflwynwyd achos llys ffug i’r ddau dîm ym mis Hydref ac mae heddiw yn gyfle iddynt gyflwyno’u tystiolaeth wedi dau fis o ymchwilio ac ystyriaeth. 

Yn cynrychioli Aberystwyth bydd Charlotte Garbett a Robert Donaldson, y ddau yn fyfyrwyr ail flwyddyn yn Brifysgol.

“Mae’r gystadleuaeth hon yn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu sgiliau gwerthfawr ac yn gyfle gwych iddynt gael dadlau eu hachos o flaen Barnwr profiadol.” meddai’r Athro Noel Cox, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

“Mae ymryson cyfreitha yn dyddio yn ôl dros 500 mlynedd ac mae’n parhau hyd heddiw i fod yn rhan bwysig o radd yn y Gyfraith.”

“Yn y 15fed Ganrif byddai’r Ysbytai'r Brawdlys yn defnyddio ymryson cyfreitha fel modd o addysgu bargyfreithwyr ifanc sialensiau eiriolaeth.”

“Mae ymryson cyfreitha cystadleuol yn darparu cyfle i fyfyrwyr i gydweithio ac i feddwl yn glir, yn gyflym ac ar eu traed - mae’n gam gwych wrth baratoi myfyrwyr am realiti’r llys.”

“Daw llwyddiant fodd bynnag, ddim yn angenrheidiol wrth ennill y ddadl, ond o safon cyflwyno’r dadleuon cyfreithiol,” ychwanegodd.

Yn llywyddu’r gystadleuaeth mae Ei Hanrhydedd y Barnwr Elizabeth Fisher, Barnwr Cylchdaith o Firmingham ac aelod o Ysbyty’r Inner Temple o Ysbytai’r Brawdlys, a chanddi dros 21ain o flynyddoedd o brofiad ar y Fainc.

Meddai Shaun Bailey, Is-Lywydd Cymdeithas Ymryson Cyfreitha Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r broblem gyfreithiol sydd wedi ei chyflwyno fel tasg i’r tîm yn un realistig ac mi fydd raid i’r tîm buddugol sicrhau eu bod wedi ymchwilio’n drylwyr i’r achos cyn cyflwyno dadl sydd yn argyhoeddi, resymegol, ac wedi ei chefnogi â thystiolaeth.  Rwy’n edrych ymlaen at brynhawn diddorol o ddadlau ac yn dymuno pob hwyl i’n tîm ni.”

Bydd enillwyr rownd gyntaf Cystadleuaeth Ymryson Cyfreitha Gwasg Prifysgol Rhydychen yn cael mynd ymlaen i’r ail rownd a gynhelir yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd gyda’r broblem ar gyfer y rownd derfynol yn cael ei chyflwyno ym mis Mehefin 2011.