Iâ tenau

Dr Alun Hubbard yn paratoi i ffilmio ar gyfer cyfres y BBC, Frozen Planet.

Dr Alun Hubbard yn paratoi i ffilmio ar gyfer cyfres y BBC, Frozen Planet.

06 Rhagfyr 2011

Bydd rhewlifegydd o Brifysgol Aberystwyth, Dr Alun Hubbard, yn ymddangos ar y rhifyn olaf o gyfres mawr ei chanmoliaeth y BBC, Frozen Planet, a ddarlledir ar BBC 1 ar ddydd Mercher y 7fed o Ragfyr am 9yh.

Yn y rhifyn olaf hwn bydd cyflwynydd y gyfres David Attenborough yn cyfarfod â Dr Hubbard ar silf iâ Greenland wrth iddo deithio i’r naill begwn fel y llall er mwyn archwilio beth fydd goblygiadau cynhesu byd eang ar y bobl a’r bywyd gwyllt sydd yno’n byw, ac ar weddill y blaned.

Gweithiodd Dr Hubbard, sy’n ymchwilydd yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol, yn agos gyda thîm cynhyrchu Frozen Planet ar bob agwedd o’r ffilmio yn Greenland.


Yn ystod bwrlwm y ffilmio ym mis Gorffennaf a mis Awst y llynedd, croesawodd Dr Hubbard a’i dîm ymchwil o Brifysgolion Aberystwyth ac Abertawe saith o griw ffilmio Astudiaethau Naturiol y BBC am bythefnos, yn ogystal ag amryw o ohebyddion o Sky News, y New York Times, a’r Daily Mail yng ngwersyll Melt Lake yn nghanol silf iâ Greenland.

Cynorthwyodd a chyfarwyddodd Dr Hubbard dîm ffilmio’r BBC hefyd yn Store Glacier, un o’i safleoedd ymchwil eraill yng Ngreenland, lle ffilmiwyd yr olygfa syfrdanol o fynydd iâ yn toddi a welir yn y rhifyn gyntaf o’r gyfres (ac a welir eto yn y rhifyn nesaf ohono).

Ers 2008, mae Dr Hubbard wedi bod yn cynghori ac yn helpu cynhyrchwyr Frozen Planet i ddatrys nifer o’r anawsterau gwyddonol a logistaidd sydd wedi codi wrth ffilmio mewn ardal mor ddiarffordd ac anial â Greenland. Darparodd yr hofrenyddion AS350 (a’u peilotiaid) a ddefnyddiwyd i ffilmio’r holl olygfeydd awyr cineflex syfrdanol a welir yn y gyfres. Darparodd hefyd long ymchwil iâ i’r BBC – y Gambo (a welir yn y rhifyn diwethaf o’r raglen) – a fu’n gefnogaeth i’r ffilmio a wnaed ar y môr.

Dywedodd Dr Hubbard, “Roedd yr haf diwethaf yn un llawn gwaith, a phrofodd hefyd yn straenllyd iawn weithiau, a minnau’n gorfod cydlynu amrywiol griwiau a hofrenyddion i ddarparu cefnogaeth o’r tir, yr awyr, a’r môr, ynghyd â rheoli timau gwaith ar yr ia mewn llefydd anodd a pheryglus. Ond gwyddai pawb beth oedd eu dyletswyddau personol, a gweithiodd popeth yn berffaith – mae’n destament i waith pawb. Mae’n braf medru eistedd yn ôl nawr a mwynhau ffrwyth yr holl ymdrechion hyn – mae’r cyfan o gyfres Frozen Planet, gan gynnwys ein hymchwil yn Greenland, yn edrych yn wefreiddiol.”

Rhewlif Petermann yn crebachu
Yn ystod haf 2011 cyhoeddodd Dr Hubbard ddelweddau dramatig oedd yn dangos fod allanfa fwyaf Greenland – Rhewlif Petermann – wedi cilio 20km mewn dim ond dwy flynedd. 

Mae’r ffotograffau, a dynnwyd gan Dr Hubbard ar yr un dydd ym mis Gorffennaf 2009 a 2011 yn dangos 300km cyfan y rhewlif, sydd yn cyfrif am 6% o arwynebedd silff iâ Greenland, cyn ac wedi i fynydd iâ mawr oedd yn mesur dros 200km2 ddatod oddi wrtho ym mis Awst 2010. 

Ar y pryd, disgrifiodd Dr Hubbard y newid fel un “syfrdanol”. “Roedd yn anhygoel i’w weld. Mae’r rhewlif yn anferthol, 20km ar led a dros 600m o drwch ac wedi’i amgylchynu gan glogwyni serth o hyd at 1000m o daldra ar bob tu iddo. Mae ei weld yn brofiad tebyg i edrych i mewn i’r Grand Canyon, sydd wedi’i lenwi â iâ, cyn edrych i mewn iddo ddwy flynedd yn ddiweddarach a gweld ei fod yn llawn o ddŵr.”

Mae Dr Hubbard, sy’n gweithio gyda chefnogaeth y Cyngor Ymchwil i Amgylcheddau Naturiol (UK), yn credu fod y craciau a’r toriadau yn y silff iâ yn dangos ei bod yn debygol o dorri ar rhyw bwynt yn y dyfodol agos.

Y mae newydd gyhoeddi erthygl yn y cyfnodolyn Geology Today ar Chwalfa Petermann, Atlas y Times, a stad wirioneddol iechyd silff iâ Greenland.

Brodor o Forth, ger Aberystwyth, yw Dr Hubbard. Ymunodd â’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill 2007.

Gwefan newydd arbennig am Silff Iâ Greenland
Mae Dr Alun Hubbard a’i gydweithwyr yng Nghanolfan Rhewlifeg Prifysgol Aberystwyth wedi sefydlu gwefan newydd arbennig i gyflwyno’r ymchwil a wneir ganddynt ar silff iâ Greenland.

Darpara’r wefan www.aber.ac.uk/greenland gyflwyniad diddorol i’r silff iâ, yr ail fàs iâ mwyaf yn y byd, sy’n cyfrif am oddeutu 11% o arwynebedd iâ y blaned.

Mae’r wefan, sy’n cynnwys lluniau rhyfeddol a ffilmiau, yn darparu mewnwelediad dramatig ar natur bywyd a gwaith yn yr amgylchedd anial hwn, a darpara wybodaeth fanwl am y tri phrif safle lle gweithia Dr Hubbard a’i dîm, sef dalgylch Rhewlif Russel ger Langerlussuag, ardal Uummannag o Orllewin Greenland, a Rhewlif Petermann yn y Gogledd Orllewin pell.

AU29611